No themes applied yet
Adfer Israel
1Tosturia'r ARGLWYDD wrth Jacob, ac fe ddewis Israel drachefn iddo'i hun. Fe'u gesyd yn eu tir eu hunain, a daw estroniaid i ymgysylltu â hwy ac i lynu wrth deulu Jacob. 2Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.
Yn Erbyn Brenin Babilon
3Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi, 4fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon:
O fel y darfu'r gorthrymwr
ac y peidiodd ei orffwylltra!14:4 Felly Sgrôl A a'r Fersiynau. TM, ei dinas aur.
5Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiol
a gwialen y llywiawdwyr,
6a fu'n taro'r bobloedd mewn dig,
heb atal eu hergyd,
ac yn sathru'r bobloedd mewn llid
a'u herlid yn ddi-baid.
7Daeth llonyddwch i'r holl ddaear, a thawelwch;
ac y maent yn gorfoleddu ar gân.
8Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn,
a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud,
“Er pan fwriwyd di ar dy orwedd
ni chododd neb i'n torri ni i lawr.”
9Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddi
i'th dderbyn pan gyrhaeddi;
bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod,
pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear;
gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd,
sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.
10Bydd pob un ohonynt yn ymateb,
ac yn dy gyfarch fel hyn:
“Aethost tithau'n wan fel ninnau;
yr wyt yr un ffunud â ni.”
11Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol,
yn sŵn miwsig dy nablau;
oddi tanat fe daenir y llyngyr,
a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid.
12O fel y syrthiaist o'r nefoedd,
ti, seren ddydd, fab y wawr!
Fe'th dorrwyd i'r llawr,
ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd.
13Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd,
dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf;
eisteddaf ar y mynydd cynnull
ym mhellterau'r Gogledd.
14Dringaf yn uwch na'r cymylau;
fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.”
15Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd,
i lawr i ddyfnderau'r pwll.
16Bydd y rhai a'th wêl yn synnu
a phendroni drosot, a dweud,
“Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu,
ac a ysgytiodd deyrnasoedd?
17Ai hwn a droes y byd yn anialwch,
a dinistrio'i ddinasoedd
heb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?”
18Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd,
pob un yn ei le ei hun;
19ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd,
fel erthyl14:19 Cymh. Groeg. Hebraeg, fel cangen. a ffieiddir;
fe'th orchuddiwyd â chelanedd
wedi eu trywanu â chleddyf,
ac yn disgyn i waelodion14:19 Felly Fwlgat. Hebraeg, i gerrig. y pwll,
fel cyrff wedi eu sathru dan draed.
20Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy,
oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl.
Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;
21darparwch laddfa i'w blant,
oherwydd drygioni eu hynafiaid,
rhag iddynt godi ac etifeddu'r tir
a gorchuddio'r byd â dinasoedd.
Dinistrio Babilon
22“Codaf yn eu herbyn,”
medd ARGLWYDD y Lluoedd,
“a dinistrio enw Babilon a'r gweddill sydd ynddi,
yn blant a phlant i blant,”
medd yr ARGLWYDD.
23“A gwnaf hi'n gynefin i aderyn y bwn,
yn gors ddiffaith,
ac ysgubaf hi ag ysgubell distryw,”
medd ARGLWYDD y Lluoedd.
Dinistrio Asyria
24Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd,
“Fel y cynlluniais y bydd,
ac fel y bwriedais y digwydd;
25drylliaf Asyria yn fy nhir,
mathraf hi ar fy mynyddoedd;
symudir ei hiau oddi arnat14:25 Felly Sgrôl. TM, oddi arnynt.
a'i phwn oddi ar dy14:25 Felly Sgrôl. TM, ei gefn. gefn.
26Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear,
a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.
27Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd;
pwy a'i diddyma?
Ei law ef a estynnwyd;
pwy a'i try'n ôl?”
Yn Erbyn Philistia
28Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Ahas daeth yr oracl hwn:
29Paid â llawenychu, Philistia gyfan,
am dorri'r wialen a'th drawodd;
oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber,
a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.
30Caiff y tlawd bori yn fy nolydd14:30 Felly llawysgrifau. TM, rhai cyntafanedig.
a'r anghenus orwedd yn dawel;
ond lladdaf dy wreiddyn â newyn,
a dinistriaf14:30 Felly Sgrôl. TM, dinistria. y rhai sy'n weddill ohonot.
31Uda, borth! Gwaedda, ddinas!
Y mae Philistia gyfan mewn gwewyr.
Y mae mwg yn dod o'r gogledd,
ac nid oes neb yn ei rengoedd yn llusgo.
32Beth yw'r ateb i gennad y bobl?
“Gwnaeth yr ARGLWYDD Seion yn ddiogel,
ac ynddi y caiff trueiniaid ei bobl loches.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004