No themes applied yet
Heddwch i'r Cenhedloedd
Mic. 4:1–3
1Y gair a welodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:
2Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDD
wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd
ac yn uwch na'r bryniau.
Dylifa'r holl genhedloedd ato,
3a daw pobloedd lawer, a dweud,
“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,
i deml Duw Jacob;
bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd,
a byddwn ninnau'n rhodio yn ei lwybrau.”
Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,
a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
4Barna ef rhwng cenhedloedd,
a thorri'r ddadl i bobloedd lawer;
curant eu cleddyfau'n geibiau,
a'u gwaywffyn yn grymanau.
Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,
ac ni ddysgant ryfel mwyach.
5Tŷ Jacob, dewch, rhodiwn yng ngoleuni'r ARGLWYDD.
Darostwng Balchder
6Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl,
oherwydd y maent yn llawn dewiniaid2:6 Cymh. Targwm. Hebraeg heb dewiniaid. o'r dwyrain,
a swynwyr fel y Philistiaid,
ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.
7Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur,
ac nid oes terfyn ar eu trysorau;
y mae eu gwlad yn llawn o feirch,
ac nid oes terfyn ar eu cerbydau;
8y mae eu gwlad yn llawn o eilunod;
ymgrymant i waith eu dwylo,
i'r hyn a wnaeth eu bysedd.
9Am hynny y gostyngir y ddynoliaeth,
ac y syrth pob un—
paid â maddau iddynt.
10Ewch i'r graig, ymguddiwch yn y llwch
rhag ofn yr ARGWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef.
11Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth,
a gostyngir balchder pob un;
yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir
yn y dydd hwnnw.
12Canys y mae gan ARGLWYDD y Lluoedd ddydd
yn erbyn pob un balch ac uchel,
yn erbyn pob un dyrchafedig ac uchel2:12 Felly Groeg. Hebraeg, isel.,
13yn erbyn holl gedrwydd Lebanon,
sy'n uchel a dyrchafedig;
yn erbyn holl dderi Basan,
14yn erbyn yr holl fynyddoedd uchel
ac yn erbyn pob bryn dyrchafedig;
15yn erbyn pob tŵr uchel
ac yn erbyn pob magwyr gadarn;
16yn erbyn holl longau Tarsis
ac yn erbyn yr holl gychod pleser.
17Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth,
ac fe syrth balchder y natur ddynol.
Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir
yn y dydd hwnnw.
18Â'r eilunod heibio i gyd.
19Â pawb i holltau yn y creigiau
ac i dyllau yn y ddaear,
rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef,
pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
20Yn y dydd hwnnw bydd pobl
yn taflu eu heilunod arian
a'r eilunod aur a wnaethant i'w haddoli,
yn eu taflu i'r tyrchod daear a'r ystlumod;
21ac yn mynd i ogofeydd yn y creigiau
ac i holltau yn y clogwyni,
rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef,
pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
22Peidiwch â gwneud dim â meidrolyn
sydd ag anadl yn ei ffroenau,
canys pa werth sydd iddo?
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004