No themes applied yet
Cân o Foliant
1Yn y dydd hwnnw cenir y gân hon yng ngwlad Jwda:
Y mae gennym ddinas gadarn;
y mae'n gosod iachawdwriaeth yn furiau a chaerau iddi.
2Agorwch y pyrth i'r genedl gyfiawn ddod i mewn,
y genedl sy'n cadw'r ffydd.
3Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith
y sawl sydd â'i feddylfryd arnat,
am ei fod yn ymddiried ynot.
4Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd,
canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw.
5Y mae'n tynnu i lawr breswylwyr yr uchelder
a'r ddinas ddyrchafedig;
fe'i gwna'n wastad, yn gydwastad â'r llawr,
a'i bwrw i'r llwch;
6fe'i sethrir dan draed, traed y rhai truenus,
a than sang y rhai tlawd.
7Y mae'r llwybr yn wastad i'r rhai cyfiawn;
gwnei ffordd y cyfiawn yn llyfn26:7 Hebraeg yn ychwanegu union. Groeg hebddo.;
8edrychwn ninnau atat ti, O ARGLWYDD,
am lwybr dy farnedigaethau;
d'enw di a'th goffa di yw ein dyhead dwfn.
9Deisyfaf di â'm holl galon drwy'r nos,
a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr;
oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad,
bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.
10Er gwneud cymwynas â'r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder;
fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn,
ac ni wêl fawredd yr ARGLWYDD.
11O ARGLWYDD, dyrchafwyd dy law, ond nis gwelant;
gad iddynt weld dy sêl dros dy bobl, a chywilyddio;
a bydded i dân d'elyniaeth eu hysu.
12ARGLWYDD, ti sy'n trefnu heddwch i ni,
oherwydd ti a wnaeth ein holl weithredoedd trosom.
13O ARGLWYDD ein Duw, er i arglwyddi eraill reoli trosom,
dy enw di yn unig a gydnabyddwn.
14Y maent yn feirw, heb fedru byw,
yn gysgodion, heb fedru codi mwyach.
I hynny y cosbaist hwy a'u difetha,
a diddymu pob atgof amdanynt.
15Ond cynyddaist y genedl, O ARGLWYDD,
cynyddaist y genedl, a'th ogoneddu dy hun;
estynnaist holl derfynau'r wlad.
16Mewn adfyd, O ARGLWYDD, roeddym yn dy geisio,
ac yn tywallt allan ein gweddi
pan oeddet yn ein ceryddu.
17Fel y bydd gwraig ar fin esgor
yn gwingo a gweiddi gan boen,
felly y'n ceir ni yn dy ŵydd, O ARGLWYDD;
18yr oeddem yn feichiog, ac fel pe baem ar fin esgor,
a heb eni dim ond gwynt.
Ni chawsom waredigaeth i'r wlad,
nac epilio ar rai i drigiannu'r byd.
19Ond bydd dy feirw di yn byw,
a'u cyrff marw yn codi.
Chwi sy'n trigo yn y llwch, deffrowch a chanwch;
oherwydd y mae dy wlith fel gwlith goleuni,
a thithau'n peri iddo ddisgyn ar fro'r cysgodion.
20Dewch, fy mhobl, ewch i'ch ystafell,
caewch y drws, ac ymguddiwch am ennyd,
nes i'r llid gilio.
21Canys wele, y mae'r ARGLWYDD yn dod allan o'i fangre
i gosbi trigolion y ddaear am eu drygioni;
yna fe ddatgela'r ddaear y gwaed a dywalltwyd,
ac ni chuddia ei lladdedigion byth mwy.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004