No themes applied yet
Addo Gwaredigaeth i Jerwsalem
2 Bren. 19:1–19
1Pan glywodd y Brenin Heseceia yr hanes, rhwygodd yntau ei ddillad a rhoi sachliain amdano a mynd i dŷ'r ARGLWYDD, 2ac anfon Eliacim arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos, 3i ddweud wrtho, “Fel hyn y dywed Heseceia: ‘Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor arnynt. 4O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, a hefyd yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Dos i weddi dros y gweddill sydd ar ôl.’ ” 5Pan ddaeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia, 6dywedodd Eseia wrthynt, “Dywedwch wrth eich meistr, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu. 7Edrych, rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd, gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.’ ”
8Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna. 9Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith37:9 Felly 2 Bren. 19:9. Hebraeg, a chlywodd. at Heseceia a dweud, 10“Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw, yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria. 11Y mae'n siŵr dy fod wedi clywed am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, a'u bod wedi eu difrodi; a gei di dy arbed? 12A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy hynafiaid, fel Gosan a Haran a Reseff, a pobl Eden a drigai yn Telassar? 13Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lahir37:13 Neu, dinas., Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”
Gweddi Heseceia
14Cymerodd Heseceia'r neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD, 15a gweddïo fel hyn: 16“O ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; tydi a wnaeth y nefoedd a'r ddaear. 17O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw; O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl; gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw. 18Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r holl genhedloedd a'r gwledydd, 19a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, eithr gwaith dwylo dynol, o goed a charreg. 20Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael ef, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yw'r ARGLWYDD, tydi yn unig.”
Neges Eseia
2 Bren. 19:20–37
21Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Oherwydd i ti weddïo arnaf ynghylch Senacherib brenin Asyria, 22dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn ef:
“ ‘Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu,
yn chwerthin am dy ben;
y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.
23Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu?
Yn erbyn pwy yr wyt yn codi dy lais?
Yr wyt yn gwneud ystum dirmygus
yn erbyn Sanct Israel.
24Trwy dy weision fe geblaist yr ARGLWYDD, a dweud,
“Gyda lliaws fy ngherbydau
dringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd,
i bellterau Lebanon;
torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd;
euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog;
25cloddiais ffynhonnau ac yfed eu dyfroedd;
â gwadn fy nhroed sychais holl ffrydiau'r Neil.”
26“ ‘Oni chlywaist i mi wneud hyn erstalwm,
ac i mi lunio hyn yn y dyddiau gynt?
Bellach rwy'n ei ddwyn i ben;
bydd dinasoedd caerog yn syrthio
yn garneddau wedi eu dinistrio;
27bydd y trigolion, a'u nerth yn pallu,
yn ddigalon ac mewn gwarth,
fel gwellt y maes, llysiau gwyrdd
a glaswellt pen to
wedi eu deifio gan wynt y dwyrain37:27 Felly Sgrôl A. TM, deifio cyn iddo dyfu..’
28‘Rwy'n gwybod pryd yr wyt yn codi ac37:28 Felly Sgrôl A. TM heb yn codi ac. yn eistedd,
yn mynd allan ac yn dod i mewn,
a'r modd yr wyt yn cynddeiriogi yn f'erbyn.
29Oherwydd dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn,
a bod sŵn dy draha yn fy nghlustiau,
fe osodaf fy mach yn dy ffroen
a'm ffrwyn yn dy weflau,
a'th yrru'n ôl ar hyd y ffordd y daethost.’
30“Bydd hyn yn arwydd i ti, Heseceia. Eleni bwyteir yr hyn sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ac yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd hefyd a bwyta'u ffrwyth. 31Bydd y dihangol a adewir yn nhŷ Jwda yn gwreiddio at i lawr ac yn ffrwytho at i fyny; 32oherwydd allan o Jerwsalem fe ddaw gweddill, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. Sêl ARGLWYDD y Lluoedd a wna hyn.
33“Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria:
“ ‘Ni ddaw ef i mewn i'r ddinas hon,
nac anfon saeth i mewn iddi;
nid ymosoda arni â tharian,
na chodi clawdd yn ei herbyn.
34Ar hyd y ffordd y daeth fe ddychwel,
ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon,’ medd yr ARGLWYDD.
35‘Amddiffynnaf y ddinas hon i'w gwaredu,
er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”
36Yna aeth angel yr ARGLWYDD i wersyll yr Asyriaid a tharo i lawr gant wyth deg a phump o filoedd; pan ddaeth y bore, cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon. 37Yna aeth Senacherib brenin Asyria i ffwrdd a dychwelyd i Ninefe ac aros yno. 38Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd â'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004