No themes applied yet
Gwaeledd Heseceia
2 Bren. 20:1–11; 2 Cron. 32:24–26
1Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ” 2Troes Heseceia ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD, 3a dweud, “O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di â chywirdeb a chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg.” Ac fe wylodd Heseceia'n chwerw. 4Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Eseia a dweud, 5“Dos, dywed wrth Heseceia, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau. 6A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon. 7Dyma arwydd i ti oddi wrth yr ARGLWYDD, y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr hyn a ddywedodd. 8Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei ôl ddeg o risiau.’ ” Ac aeth yr haul yn ei ôl ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.
9Cerdd Heseceia brenin Jwda, pan fu'n glaf ac yna gwella o'i glefyd:
10Dywedais, “Yn anterth fy nyddiau rhaid i mi fynd,
a chael fy symud i byrth y bedd weddill fy mlynyddoedd”;
11dywedais, “Ni chaf weld yr ARGLWYDD
yn nhir y rhai byw,
ac ni chaf edrych eto ar neb o drigolion y byd38:11 Felly rhai llawysgrifau. TM, darfyddiad..
12Dygwyd fy nhrigfan oddi arnaf
a'i symud i ffwrdd fel pabell bugail;
fel gwehydd rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben,
i'w torri ymaith o'r gwŷdd.
O fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.
13O fel rwy'n dyheu am y bore!
Maluriwyd fy esgyrn fel gan lew;
o fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.
14Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith,
rwy'n cwynfan fel colomen.
Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny;
O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof.”
15Beth allaf fi ei ddweud?
Llefarodd ef wrthyf ac fe'i gwnaeth.
Ciliodd fy nghwsg i gyd38:15 Cymh. Syrieg. Hebraeg, cerddaf yn ofalus fy holl flynyddoedd.,
am ei bod mor chwerw arnaf.
16ARGLWYDD, trwy'r pethau hyn y bydd rhywun fyw,
ac yn yr holl bethau hyn y mae hoen fy ysbryd.
Adfer fi, gwna i mi fyw.
17Wele, er lles y bu'r holl chwerwder hwn i mi;
yn dy gariad dygaist fi o bwll distryw,
a thaflu fy holl bechodau y tu ôl i'th gefn.
18Canys ni fydd y bedd yn diolch i ti,
nac angau yn dy glodfori;
ni all y rhai sydd wedi disgyn i'r pwll
obeithio am dy ffyddlondeb.
19Ond y byw, y byw yn unig fydd yn diolch i ti,
fel y gwnaf finnau heddiw;
gwna tad i'w blant wybod am dy ffyddlondeb.
20Yr ARGLWYDD a'm gwared i;
am hynny canwn â'n hofferynnau llinynnol
holl ddyddiau ein bywyd
yn nhŷ'r ARGLWYDD.
21Yr oedd Eseia wedi dweud, “Gadewch iddynt gymryd swp o ffigys, a'i osod ar y cornwyd, ac fe fydd byw.” 22A dywedodd Heseceia, “Beth yw'r prawf y caf fynd i fyny i dŷ'r ARGLWYDD?”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004