No themes applied yet
Cymorth i Israel
1“Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd,
bydded i'r bobl nesáu41:1 Tebygol. Hebraeg, bydded i'r bobl adennill eu nerth. Cymh. 40:31.;
bydded iddynt nesáu a llefaru;
down ynghyd i farn.
2“Pwy sy'n codi un o'r dwyrain,
a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam?
Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen,
ac yn darostwng brenhinoedd.
Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf,
fel us yn chwyrlïo â'i fwa.
3Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogel
ar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.
4Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn,
a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad?
Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau,
a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.”
5Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni;
daeth cryndod ar eithafion byd;
daethant, a nesáu.
6Y mae pawb yn helpu ei gilydd,
a'r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha.”
7Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych,
a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwyl
yn annog yr un sy'n taro ar yr eingion;
y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn,
ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud.
8“Ti, Israel, yw fy ngwas;
ti, Jacob, a ddewisais,
had Abraham, f'anwylyd.
9Dygais di o bellteroedd byd,
a'th alw o'i eithafion,
a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti;
rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’
10Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi;
paid â dychryn, myfi yw dy Dduw.
Cryfhaf di a'th nerthu,
cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
11Yn awr cywilyddir a gwaradwyddir
pob un sy'n digio wrthyt;
bydd pob un sy'n ymrafael â thi
yn mynd yn ddim ac yn diflannu.
12Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat,
ond heb eu cael;
bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbyn
yn mynd yn ddim, ac yn llai na dim.
13Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw,
sy'n gafael yn dy law dde,
ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni,
yr wyf fi'n dy gynorthwyo.’
14“Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob,
na thithau'r lleuen41:14 Neu, gwŷr. Israel;
byddaf fi'n dy gynorthwyo,” medd yr ARGLWYDD,
Sanct Israel, dy Waredydd.
15“Yn awr, fe'th wnaf yn fen ddyrnu—
un newydd, ddanheddog a miniog;
byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu,
ac yn gwneud y bryniau fel us.
16Byddi'n eu nithio, a'r gwynt yn eu chwythu i ffwrdd,
a'r dymestl yn eu gwasgaru.
Ond byddi di'n llawenychu yn yr ARGLWYDD
ac yn ymhyfrydu yn Sanct Israel.
17“Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael,
a'u tafodau'n gras gan syched,
byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb;
ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.
18Agoraf afonydd ar ben y moelydd,
a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd;
gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd,
a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.
19Plannaf yn yr anialwch gedrwydd,
acasia, myrtwydd ac olewydd;
gosodaf ynghyd yn y diffeithwch
ffynidwydd, ffawydd a phren bocs.
20Felly cânt weld a gwybod,
ystyried ac amgyffred
mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn,
ac mai Sanct Israel a'i creodd.”
Duw yn Herio'r Eilunod
21“Gosodwch eich achos gerbron,” medd yr ARGLWYDD.
“Cyflwynwch eich dadleuon,” medd brenin Jacob.
22“Bydded iddynt ddod a hysbysu i ni
beth sydd i ddigwydd.
Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch,
er mwyn inni eu hystyried,
a gwybod eu canlyniadau;
neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod.
23Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn,
inni gael gwybod mai duwiau ydych;
gwnewch rywbeth, da neu ddrwg,
er mwyn i ni gael braw ac ofni trwom.
24Yn wir, nid ydych chwi'n ddim,
ac nid yw'ch gwaith ond diddim.
Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.
25“Codais un o'r gogledd, ac fe ddaeth,
un o'r dwyrain, ac fe eilw ar f'enw;
y mae'n sathru rhaglawiaid fel pridd,
ac fel crochenydd yn sathru clai.
26Pwy a fynegodd hyn o'r dechreuad, inni gael gwybod,
neu ei ddweud ymlaen llaw, inni gael ei ategu?
Nid oes neb wedi dweud na mynegi dim,
ac ni chlywodd neb eich ymadrodd.
27Gosodaf un i lefaru'n41:27 Felly Sgrôl. TM yn aneglur. gyntaf wrth Seion,
ac i gyhoeddi newyddion da i Jerwsalem.
28Pan edrychaf, nid oes neb yno;
nid oes cynghorwr yn eu plith
a all ateb pan ofynnaf.
29Yn wir, nid ydynt i gyd ond dim;
llai na dim yw eu gwaith,
gwynt a gwagedd yw eu delwau.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004