No themes applied yet
Galw Cyrus
1Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog,
yr un y gafaelais yn ei law
i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen,
i ddiarfogi brenhinoedd,
i agor dorau o'i flaen,
ac ni chaeir pyrth rhagddo:
2“Mi af o'th flaen di
i lefelu'r mynyddoedd;
torraf y dorau pres,
a dryllio'r barrau haearn.
3Rhof iti drysorau o leoedd tywyll,
wedi eu cronni mewn mannau dirgel,
er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,
Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.
4Er mwyn fy ngwas Jacob,
a'm hetholedig Israel,
gelwais di wrth dy enw,
a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.
5Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;
ar wahân i mi nid oes Duw.
Gwregysais di, er na'm hadwaenit,
6er mwyn iddynt wybod,
o godiad haul hyd ei fachlud,
nad oes neb ond myfi.
Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,
7yn llunio goleuni
ac yn creu tywyllwch,
yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant;
myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.
8“Defnynnwch oddi fry, O nefoedd;
tywallted yr wybren gyfiawnder.
Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth egino45:8 Felly Sgrôl A. TM, ffrwytho.
ac i gyfiawnder flaguro.
Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
9“Gwae'r sawl sy'n ymryson â'i luniwr,
darn o lestr yn erbyn y crochenydd.
A ddywed y clai wrth ei luniwr, ‘Beth wnei di?’
neu, ‘Nid oes graen ar dy waith’?
10Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, ‘Beth genhedli di?’
neu wrth wraig, ‘Ar beth yr esgori?’ ”
11Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,
Sanct Israel a'i luniwr:
“A ydych yn fy holi45:11 TM, yr hyn sydd i ddod. i am fy mhlant,
ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?
12Myfi a wnaeth y ddaear,
a chreu pobl arni;
fy llaw i a estynnodd y nefoedd,
a threfnu ei holl lu.
13Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth,
ac unioni ei holl lwybrau.
Ef fydd yn codi fy ninas,
ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd,
ond nid am bris nac am wobr,”
medd ARGLWYDD y Lluoedd.
14Dyma a ddywed yr ARGLWYDD:
“Bydd llafurwyr yr Aifft, masnachwyr Ethiopia a'r Sabeaid tal
yn croesi atat ac yn eiddo i ti;
dônt ar dy ôl mewn cadwyni,
ymgrymant i ti a chyffesu,
‘Yn sicr y mae Duw yn eich plith,
ac nid oes neb ond ef yn Dduw.’ ”
15Yn wir, Duw cuddiedig wyt ti,
Dduw Israel, y Gwaredydd.
16Cywilyddir a Gwaradwyddir hwy i gyd;
â'r seiri delwau oll yn waradwydd,
17ond gwaredir Israel gan yr ARGLWYDD
â gwaredigaeth dragwyddol;
ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddir
byth bythoedd.
18Dyma a ddywed yr ARGLWYDD,
creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw,
lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd,
yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd,
ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio:
“Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;
19nid mewn dirgelwch y lleferais,
nid mewn man tywyll o'r ddaear;
ni ddywedais wrth feibion Jacob,
‘Ceisiwch fi mewn anhrefn.’
Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r un sy'n llefaru cyfiawnder,
ac yn mynegi uniondeb.
20“Ymgasglwch, dewch yma,
nesewch gyda'ch gilydd,
rai dihangol y cenhedloedd.
Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau pren
a'r rhai sy'n gweddïo ar dduw na all eu hachub.
21Dewch ymlaen, cyflwynwch eich achos;
boed iddynt gymryd cyngor ynghyd.
Pwy a fynegodd hyn o'r blaen?
Pwy a'i dywedodd o'r dechrau?
Onid myfi, yr ARGLWYDD?
Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd.
Nid oes neb ond myfi.
22Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu,
canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.
23Ar fy llw y tyngais;
gwir a ddaeth allan o'm genau,
gair na ddychwel:
i mi bydd pob glin yn plygu
a phob tafod yn tyngu.
24Fe ddywedir amdanaf,
‘Yn ddiau, yn yr ARGLWYDD y mae cyfiawnder a nerth’.”
Bydd pob un a ddigiodd wrtho
yn dod ato ef mewn cywilydd.
25Cyfiawnheir holl deulu Israel,
ac ymhyfrydant yn yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004