No themes applied yet
Duwiau Babilon
1Crymodd Bel, plygodd Nebo;
ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau,
ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig,
yn faich ar anifeiliaid blinedig.
2Plygant a chrymant gyda'i gilydd,
ni allant arbed y llwyth,
ond ânt eu hunain i gaethglud.
3“Gwrandewch arnaf fi, dŷ Jacob,
a phawb sy'n weddill o dŷ Israel;
buoch yn faich i mi o'r groth,
ac yn llwyth i mi o'r bru;
4hyd eich henaint, myfi yw Duw,
hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf.
Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo,
myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.
5I bwy y'm cyffelybwch? Â phwy y gwnewch fi'n gyfartal?
I bwy y'm cymharwch? Pwy sy'n debyg i mi?
6Y mae'r rhai sy'n gwastraffu aur o'r pwrs,
ac yn arllwys eu harian i glorian,
yn llogi eurych ac yn gwneud duw
i'w addoli ac ymgrymu iddo.
7Codant ef ar eu hysgwydd a'i gario,
gosodant ef yn ei le, ac yno y saif heb symud;
os llefa neb arno, nid yw'n ei ateb,
nac yn ei achub o'i gyfyngder.
8“Cofiwch hyn, ac ystyriwch;
galwch i gof, chwi wrthryfelwyr.
9Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn ôl;
oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall,
yn Dduw heb neb yn debyg i mi.
10Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd,
ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud.
Dywedaf, ‘Fe saif fy nghyngor,
a chyflawnaf fy holl fwriad.’
11Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain,
a gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell.
Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben,
fe'i lluniais ac fe'i gwnaf.
12Gwrandewch arnaf fi, chwi bobl ystyfnig,
chwi sy'n bell oddi wrth gyfiawnder.
13Paraf i'm cyfiawnder nesáu;
nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth.
Rhof iachawdwriaeth yn Seion,
a'm gogoniant i Israel.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004