No themes applied yet
Gwaredigaeth Seion Gerllaw
1Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion;
ymwisga yn dy ddillad godidog,
O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd;
oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyach
neb dienwaededig nac aflan.
2Cod, ymysgwyd o'r llwch, ti Jerwsalem gaeth;
tyn y rhwymau oddi ar dy war, ti gaethferch Seion.
3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Gwerthwyd chwi am ddim,
ac fe'ch gwaredir heb arian.”
4Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw:
“Yn y dechrau, i'r Aifft yr aeth fy mhobl i ymdeithio,
ac yna bu Asyria'n eu gormesu'n ddiachos.
5Ond yn awr, beth a gaf yma?” medd yr ARGLWYDD.
“Y mae fy mhobl wedi eu dwyn ymaith am ddim,
eu gorthrymwyr yn llawn ymffrost,” medd yr ARGLWYDD,
“a'm henw'n cael ei ddilorni o hyd,
drwy'r dydd.
6Am hynny, fe gaiff fy mhobl adnabod fy enw;
y dydd hwnnw cânt wybod
mai myfi yw Duw, sy'n dweud, ‘Dyma fi.’ ”
7Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesydd
sy'n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth;
sy'n dweud wrth Seion, “Dy Dduw sy'n teyrnasu.”
8Clyw, y mae dy wylwyr yn codi eu llais
ac yn bloeddio'n llawen gyda'i gilydd;
â'u llygaid eu hunain y gwelant
yr ARGLWYDD yn dychwelyd i Seion.
9Bloeddiwch, cydganwch, chwi adfeilion Jerwsalem,
oherwydd tosturiodd yr ARGLWYDD wrth ei bobl,
a gwaredodd Jerwsalem.
10Dinoethodd yr ARGLWYDD ei fraich sanctaidd
yng ngŵydd yr holl genhedloedd,
ac fe wêl holl gyrrau'r ddaear
iachawdwriaeth ein Duw ni.
11Allan! Allan! Ymaith â chwi!
Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan.
Ewch allan o'i chanol, glanhewch eich hunain,
chwi sy'n cludo llestri'r ARGLWYDD.
12Nid ar ffrwst yr ewch allan,
ac nid fel ffoaduriaid y byddwch yn ymadael,
oherwydd bydd yr ARGLWYDD ar y blaen,
a Duw Israel y tu cefn i chwi.
Y Gwas Dioddefus
13Yn awr, bydd fy ngwas yn llwyddo;
fe'i codir, a'i ddyrchafu, a bydd yn uchel iawn.
14Ar y pryd roedd llawer yn synnu ato52:14 Felly rhai llawysgrifau. TM, atat.—
roedd ei wedd yn rhy hagr i ddyn,
a'i bryd yn hyllach na neb dynol,
15a phobloedd lawer yn troi i ffwrdd rhag ei weld,
a brenhinoedd yn fud o'i blegid.
Ond byddant yn gweld peth nas eglurwyd iddynt,
ac yn deall yr hyn na chlywsant amdano.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004