No themes applied yet
Gogoniant Seion
1“Cod, llewyrcha,
oherwydd daeth dy oleuni;
llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
2Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear,
a'r fagddu dros y bobloedd,
bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti,
a gwelir ei ogoniant arnat.
3Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni,
a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr.
4“Cod dy lygaid ac edrych o'th gwmpas;
y maent i gyd yn ymgasglu i ddod atat,
yn dwyn dy feibion a'th ferched o bell,
ac yn eu cludo ar eu hystlys;
5pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi,
bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd;
troir atat gyflawnder y môr,
a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.
6Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio,
daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba;
byddant i gyd yn cludo aur a thus,
ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.
7Cesglir holl ddefaid Cedar atat,
a bydd hyrddod Nebaioth at dy wasanaeth;
offrymir hwy'n aberthau derbyniol ar fy allor,
ac ychwanegaf at ogoniant fy nhŷ gogoneddus.
8“Pwy yw'r rhain sy'n ehedeg fel cwmwl,
ac fel colomennod i'w nythle?
9Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,
a llongau Tarsis ar y blaen,
i ddod â'th blant o bell,
a'u harian a'u haur gyda hwy,
er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel;
oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.
10“Dieithriaid fydd yn codi dy furiau,
a'u brenhinoedd yn dy wasanaethu,
oherwydd, er i mi yn fy nig dy daro,
penderfynais dosturio wrthyt.
11Bydd dy byrth yn agored bob amser,
heb eu cau ddydd na nos,
er mwyn dwyn golud y cenhedloedd atat,
gyda'u brenhinoedd yn osgordd.
12Oherwydd difethir y genedl a'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu;
dinistrir y cenhedloedd hynny'n llwyr.
13Daw gogoniant Lebanon atat—
y ffynidwydd, y ffawydd a'r pren bocs—
i harddu man fy nghysegr,
ac anrhydeddu'r lle y gosodaf fy nhraed.
14Daw plant dy ormeswyr atat yn ostyngedig;
bydd pob un a'th ddiystyrodd yn ymostwng wrth dy draed;
galwant di yn Ddinas yr ARGLWYDD,
Seion Sanct Israel.
15“Yn lle dy fod yn wrthodedig ac yn atgas,
heb neb yn tramwyo trwot,
fe'th wnaf yn ogoniant tragwyddol,
ac yn llawenydd o oes i oes.
16Cei sugno llaeth cenhedloedd,
a'th fagu ar fronnau brenhinoedd,
a chei wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy achubydd,
ac mai Duw cadarn Jacob yw dy Waredydd.
17“Yn lle pres dygaf aur,
yn lle haearn dygaf arian,
ac yn lle coed, bres,
yn lle cerrig, haearn;
gwnaf dy lywodraethwyr yn heddychol
a'th feistradoedd yn gyfiawn.
18Ni chlywir mwyach am drais yn dy wlad,
nac am ddistryw na dinistr o fewn dy derfynau,
ond gelwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth,
a'th byrth yn Foliant.
19“Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd,
ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos;
ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti,
a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.
20Ni fachluda dy haul mwyach,
ac ni phalla dy leuad;
oherwydd yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti,
a daw diwedd ar ddyddiau dy alar.
21Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn,
yn gwreiddio yn y tir am byth,
yn flaguryn a blennais—
fy ngwaith fy hun i'm gogoneddu.
22Daw'r lleiaf yn llwyth,
a'r ychydig yn genedl gref.
Myfi yw'r ARGLWYDD;
brysiaf i wneud hyn yn ei amser.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004