No themes applied yet
Rhybudd i'r Cyfoethog
1Ac yn awr, chwi'r cyfoethogion, wylwch ac udwch o achos y trallodion sydd yn dod arnoch. 2Y mae eich golud wedi pydru, ac y mae'r gwyfyn wedi difa eich dillad. 3Y mae eich aur a'ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac yn bwyta eich cnawd fel tân. Casglu cyfoeth a wnaethoch yn y dyddiau olaf. 4Clywch! Y mae'r cyflogau na thalasoch i'r gweithwyr a fedodd eich meysydd yn gweiddi allan; ac y mae llefain y medelwyr yng nghlustiau Arglwydd y Lluoedd. 5Buoch yn byw yn foethus a glwth ar y ddaear; buoch yn eich pesgi'ch hunain ar gyfer dydd y lladdfa. 6Yr ydych wedi condemnio a lladd y cyfiawn, heb iddo yntau eich gwrthsefyll.
Amynedd a Gweddi
7Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar. 8Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a'ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos. 9Peidiwch ag achwyn ar eich gilydd, fy nghyfeillion, rhag ichwi gael eich barnu. Gwelwch, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws. 10Ystyriwch, gyfeillion, fel esiampl o rai'n dioddef yn amyneddgar, y proffwydi a lefarodd yn enw'r Arglwydd. 11Ac yr ydym yn dweud mai gwyn eu byd y rhai a ddaliodd eu tir. Clywsoch am ddyfalbarhad Job, a gwelsoch y diwedd a gafodd ef gan yr Arglwydd; y mae'r Arglwydd mor dosturiol a thrugarog.
12Ond yn anad dim, fy nghyfeillion, peidiwch â thyngu llw wrth y nef, nac wrth y ddaear, nac wrth ddim arall chwaith. I'r gwrthwyneb, bydded eich “ie” yn “ie” yn unig, a'ch “nage” yn “nage” yn unig, rhag ichwi syrthio dan farn.
13A oes rhywun yn eich plith mewn adfyd? Dylai weddïo. A oes rhywun yn llawen? Dylai ganu mawl. 14A oes rhywun yn glaf yn eich plith? Galwed ato henuriaid yr eglwys, i weddïo trosto a'i eneinio ag olew yn enw yr Arglwydd. 15Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iacháu y sawl sy'n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed; ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant. 16Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iachâd. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn. 17Yr oedd Elias yn ddyn o'r un anian â ninnau, ac fe weddïodd ef yn daer am iddi beidio â glawio; ac ni lawiodd ar y ddaear am dair blynedd a chwe mis. 18Yna gweddïodd eilwaith, a dyma'r nefoedd yn arllwys ei glaw, a'r ddaear yn dwyn ei ffrwyth.
19Fy nghyfeillion, os digwydd i un ohonoch wyro oddi wrth y gwirionedd, ac i un arall ei droi'n ôl, 20boed iddo wybod hyn: bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau, ac yn dileu lliaws o bechodau.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004