No themes applied yet
Duw a'r Eilunod
1Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, dŷ Israel. 2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd,
na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd,
fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.
3Y mae arferion y bobloedd fel eilun—
pren wedi ei gymynu o'r goedwig,
gwaith dwylo saer â bwyell;
4ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur,
y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.
5Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru;
rhaid eu cludo am na allant gerdded.
Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed,
na gwneud da chwaith.”
6Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt,
mawr yw dy enw mewn nerth.
7Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd?
Hyn sy'n gweddu i ti.
Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd,
ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi.
8Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd,
wedi eu dysgu gan eilunod o bren!
9Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas,
gwaith y saer a dwylo'r eurych;
a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor—
gwaith crefftwyr ydyw i gyd.
10Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw;
ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol;
y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid,
ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.
11Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.”
Emyn Mawl i Dduw
12Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth,
sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb,
estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall.
13Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd,
fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear.
Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.
14Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.
Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,
canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,
ac nid oes anadl ynddynt.
15Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;
yn amser eu cosbi fe'u difethir.
16Nid yw Duw Jacob fel y rhain,
oherwydd ef yw lluniwr pob peth,
ac Israel yw ei lwyth dewisol.
ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
Y Gaethglud sy'n Dod
17Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad,
ti, yr hon sy'n trigo dan warchae.
18Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn;
dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny.”
19Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn,
ond dywedais, “Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef.”
20Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd;
aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy;
nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.
21Aeth y bugeiliaid yn ynfyd;
nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD;
am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar.
22Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod!
Cynnwrf mawr o dir y gogledd,
i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch
ac yn drigfa bleiddiaid.
23Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd;
ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre.
24Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn,
nid yn ôl dy lid, rhag iti fy niddymu.
25Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod,
ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw.
Canys y maent wedi bwyta Jacob,
ei fwyta a'i ddifetha,
ac wedi difodi ei drigfan.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004