No themes applied yet
Dydd Cosb
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf: 2“Paid â chymryd iti wraig; na fydded i ti feibion na merched yn y lle hwn. 3Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y bechgyn a'r genethod a enir yn y lle hwn, ac am y mamau a'u dwg hwy a'r hynafiaid a'u cenhedla yn y wlad hon: 4‘Byddant farw o angau dychrynllyd. Ni fydd galaru ar eu hôl ac ni chleddir hwy; byddant fel tail ar wyneb y tir. Fe'u lleddir gan gleddyf a newyn, a bydd eu celanedd yn ymborth i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.’ 5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Paid â mynd i dŷ galar, na mynd i alaru na chydymdeimlo, oherwydd cymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd fy nghariad a'm tosturi. 6Byddant farw, yn fawr a bach, yn y wlad hon; ni chleddir mohonynt ac ni alerir amdanynt; ni fyddant yn anafu eu cyrff nac yn eillio'u pennau o'u plegid. 7Ni rennir bara16:7 Felly Groeg. Hebraeg, iddynt. galar i roi cysur iddynt am y marw, ac nid estynnir cwpan cysur am na thad na mam. 8Ac nid ei di i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwy i fwyta ac yfed.’ ”
9“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:”
“Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau,
rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd,
ar lais priodfab a phriodferch.”
10“Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, ‘Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’ 11Dywed dithau wrthynt, ‘Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a rhodio ar ôl duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith. 12A gwnaethoch chwi yn waeth na'ch hynafiaid, gan rodio bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus, heb wrando arnaf fi. 13Am hynny, fe'ch hyrddiaf chwi allan o'r wlad hon i wlad nad adwaenoch chwi na'ch hynafiaid; yno gwasanaethwch dduwiau eraill, ddydd a nos, oherwydd ni wnaf unrhyw ffafr â chwi.’
Dychwelyd o'r Gaethglud
14“Am hynny, y mae'r dyddiau ar ddod,” medd yr ARGLWYDD, “pryd na ddywedir mwyach, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’, 15ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, o'r holl wledydd lle gyrrodd hwy.’ Ac fe'u dychwelaf i'w gwlad, y wlad a roddais i'w hynafiaid.
Dal y Bobl am eu Pechod
16“Yr wyf yn anfon am bysgotwyr lawer,” medd yr ARGLWYDD, “ac fe'u daliant. Wedi hynny anfonaf am helwyr lawer, ac fe'u heliant oddi ar bob mynydd a phob bryn, ac o holltau'r creigiau. 17Oherwydd y mae fy llygaid ar eu holl ffyrdd hwy; ni chuddiwyd hwy o'm gŵydd, ac nid yw eu drygioni wedi ei gelu o'm golwg. 18Yn gyntaf, mi dalaf yn ddwbl am eu drygioni a'u pechod, am iddynt halogi fy nhir â chelanedd eu duwiau ffiaidd; llanwodd eu ffieidd-dra fy etifeddiaeth.”
Hyder Jeremeia yn yr ARGLWYDD
19O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid,
fy noddfa mewn dydd o flinder,
atat ti y daw'r cenhedloedd, o gyrion pellaf byd, a dweud,
“Diau i'n hynafiaid etifeddu celwydd,
oferedd, a phethau di-les.
20A wna rhywun dduw iddo'i hun?
Nid yw'r rhain yn dduwiau.”
21“Am hynny, wele, paraf iddynt wybod;
y waith hon mi ddangosaf iddynt fy nerth a'm grym.
A deallant mai'r ARGLWYDD yw fy enw.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004