No themes applied yet
Jeremeia'n Gwisgo Iau
1Yn nechrau teyrnasiad Sedeceia27:1 Felly rhai llawysgrifau. Cymh. adn. 3, etc. TM, Jehoiacim. fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD. 2Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD: “Gwna i ti rwymau a barrau iau, a'u gosod ar dy war; 3ac anfon27:3 Felly Groeg. Hebraeg, a'u hanfon. at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon, trwy law'r cenhadau a ddaw i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda. 4Gorchmynna iddynt ddweud hyn wrth eu meistriaid, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Fel hyn y dywedwch wrth eich meistriaid: 5“Â'm gallu mawr ac â'm braich estynedig gwneuthum y ddaear, a phobl, a'r anifeiliaid sydd ar wyneb y ddaear, a'u rhoi i'r sawl y gwelaf yn dda. 6Yn awr, rhof y gwledydd hyn oll yn llaw fy ngwas Nebuchadnesar brenin Babilon, a rhof hyd yn oed yr holl anifeiliaid gwyllt iddo ef i'w wasanaethu. 7Bydd yr holl genhedloedd yn ei wasanaethu ef a'i fab a mab ei fab, nes dod awr ei wlad yntau, a'i feistroli gan genhedloedd niferus a brenhinoedd mawrion. 8Os bydd cenedl neu deyrnas heb wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, a heb roi ei gwar dan iau brenin Babilon, mi gosbaf y genedl honno â'r cleddyf a newyn a haint,” medd yr ARGLWYDD, “nes imi ei dinistrio'n llwyr trwy ei law ef. 9Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’ 10Oherwydd proffwydant gelwydd i chwi, er mwyn eich gyrru ymhell o'ch tir, ac i mi eich alltudio ac i chwi drengi. 11Ond y genedl a rydd ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu, gadawaf honno yn ei thir,” medd yr ARGLWYDD; “caiff ei drin a thrigo ynddo.” ’ ”
12Lleferais wrth Sedeceia brenin Jwda hefyd yn unol â'r holl eiriau hyn, gan ddweud, “Rhowch eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu ef a'i bobl, er mwyn ichwi gael byw. 13Pam y byddwch farw, ti a'th bobl, trwy'r cleddyf a newyn a haint, yn ôl yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD am y genedl na fydd yn gwasanaethu brenin Babilon? 14Peidiwch â gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n dweud wrthych, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’ Oherwydd y maent yn proffwydo celwydd i chwi. 15Yn wir, nid myfi a'u hanfonodd,” medd yr ARGLWYDD, “ond proffwydo'n gelwyddog y maent yn fy enw i, er mwyn i mi eich alltudio chwi ac i chwi drengi, chwi a'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi.”
16Yna lleferais wrth yr offeiriaid a'r holl bobl hyn, gan ddweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Peidiwch â gwrando ar eiriau eich proffwydi sy'n proffwydo i chwi fod llestri tŷ'r ARGLWYDD i'w dwyn yn ôl o Fabilon yn awr ar fyrder. Y maent yn proffwydo celwydd i chwi; 17peidiwch â gwrando arnynt, ond gwasanaethwch frenin Babilon, er mwyn ichwi gael byw. Pam y bydd y ddinas hon yn anghyfannedd? 18Os proffwydi ydynt, ac os yw gair yr ARGLWYDD ganddynt, boed iddynt ymbil yn awr ar ARGLWYDD y Lluoedd rhag i'r llestri a adawyd yn nhŷ'r ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda ac yn Jerwsalem, fynd i Fabilon.’
19“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd ynghylch y colofnau, y môr a'r trolïau, ac ynghylch gweddill y llestri a adawyd yn y ddinas hon, 20heb eu cymryd ymaith gan Nebuchadnesar brenin Babilon pan gaethgludodd Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, o Jerwsalem i Fabilon, ynghyd â holl uchelwyr Jwda a Jerwsalem. 21Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ynghylch y llestri a adawyd yn nhŷ'r ARGLWYDD a thŷ brenin Jwda a Jerwsalem: 22‘I Fabilon y dygir hwy, ac yno y byddant hyd y dydd y ceisiaf fi hwy,’ medd yr ARGLWYDD; ‘yna fe'u cyrchaf a'u hadfer i'r lle hwn.’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004