No themes applied yet
Israel Anffyddlon
1“Os bydd gŵr yn ysgaru ei wraig, a hithau'n ei adael
ac yn mynd yn eiddo i arall, a ddychwel ef ati?
Oni halogid y tir yn ddirfawr trwy hyn?
Yr wyt wedi puteinio gyda chariadon lawer,
ond a fyddi'n dychwelyd ataf?” medd yr ARGLWYDD.
2“Cod dy olwg i'r moelydd,
ac edrych am fan na phuteiniaist ynddo;
disgwyliaist amdanynt ger y ffyrdd, fel Arab yn yr anialwch;
halogaist y tir â'th buteindra, ac â'th ddrygioni.
3Ataliwyd y glawogydd, ac ni ddaeth y cawodydd diweddar;
ond talcen putain oedd gennyt, a gwrthodaist gywilyddio.
4Ac onid wyt yn awr yn galw arnaf,
‘Fy nhad, cyfaill fy ieuenctid wyt ti—
5a fydd ef yn ddig hyd byth?
a geidw ef lid bob amser?’
Fel hyn y lleferaist,
ond gwnaethost ddrygioni hyd y gellaist.”
Rhaid i Israel a Jwda Edifarhau
6Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf yn nyddiau'r Brenin Joseia, “A welaist ti'r hyn a wnaeth Israel anffyddlon? Bu'n rhodianna ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, a phuteinio yno. 7Dywedais, ‘Wedi iddi wneud hyn i gyd, fe ddychwel ataf.’ Ond ni ddychwelodd, a gwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda hynny. 8Gwelodd3:8 Hebraeg, A gwelais. mai'n unig oherwydd i Israel anffyddlon odinebu y gollyngais hi, a rhoi iddi ei llythyr ysgar; er hynny nid ofnodd Jwda, ei chwaer dwyllodrus, ond aeth hithau hefyd a phuteinio. 9Halogodd y tir trwy buteinio mor rhwydd, gan odinebu gyda maen a chyda phren. 10Ac er hyn oll ni ddychwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda ataf fi â'i holl galon, ond mewn rhagrith,” medd yr ARGLWYDD. 11Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fe'i cyfiawnhaodd Israel anffyddlon ei hun rhagor Jwda dwyllodrus. 12Dos a chyhoedda'r geiriau hyn tua'r gogledd, a dywed:
“ ‘Dychwel, Israel anffyddlon,’ medd yr ARGLWYDD.
‘Ni fwriaf fy llid arnoch,
canys ffyddlon wyf fi,’ medd yr ARGLWYDD.
‘Ni fyddaf ddig hyd byth.
13Yn unig cydnebydd dy gamwedd,
iti wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw,
ac afradu dy ffafrau i ddieithriaid dan bob pren gwyrddlas,
heb wrando ar fy llais,’ medd yr ARGLWYDD.”
14“Dychwelwch, blant anffyddlon,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd myfi a'ch piau chwi, ac fe'ch cymeraf bob yn un o ddinas a bob yn ddau o lwyth, a'ch dwyn i Seion. 15Yno y rhof i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, a phorthant chwi â gwybodaeth a deall. 16Wedi i chwi amlhau a chynyddu yn y wlad, fe ddaw amser,” medd yr ARGLWYDD, “pan na ddywedir mwyach, ‘Arch cyfamod yr ARGLWYDD’, ac ni ddaw i feddwl neb gofio amdani nac ymweld â hi, ac ni wneir hynny mwyach. 17Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn ôl ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus. 18Yn y dyddiau hynny fe â tŷ Jwda at dŷ Israel, a dônt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.”
Eilunaddoliaeth Pobl Dduw
19“Dywedais, ‘Sut y gosodaf di ymhlith y plant,
i roi i ti dir dymunol,
ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?’
A dywedais, ‘Fe'm gelwi, “Fy nhad”,
ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl.’
20Yn ddiau, fel y bydd gwraig yn anffyddlon i'w chymar,
felly, dŷ Israel, y buoch yn anffyddlon i mi,” medd yr ARGLWYDD.
21Clyw! Ar y moelydd clywir wylofain ac ymbil tŷ Israel,
am iddynt wyro eu ffordd ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw.
22“Dychwelwch, blant anffyddlon; iachâf eich ysbryd anffyddlon.”
“Wele, fe ddown atat, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD ein Duw.
23Diau y daw oferedd o gyfeddach y bryniau a'r mynyddoedd,
ond yn yr ARGLWYDD ein Duw y mae iachawdwriaeth Israel.
24Y mae'r gwarth wedi ysu llafur ein hynafiaid o'n hieuenctid:
eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.
25Gorweddwn yn ein gwarth, a'n cywilydd wedi ein hamdói.
Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw,
nyni a'n hynafiaid, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw,
ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004