No themes applied yet
Baruch yn Darllen y Sgrôl yn y Deml
1Yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: 2“Cymer sgrôl, ac ysgrifenna arni yr holl eiriau a leferais wrthyt yn erbyn Israel a Jwda a'r holl genhedloedd, o'r dydd y dechreuais lefaru wrthyt, o ddyddiau Joseia hyd heddiw. 3Efallai y bydd tŷ Jwda, pan glywant am yr holl ddinistr y bwriadaf ei ddwyn arnynt, yn troi, pob un o'i ffordd annuwiol, a minnau'n maddau iddynt eu drygioni a'u pechod.”
4Yna galwodd Jeremeia ar Baruch fab Nereia, ac wrth i Jeremeia lefaru ysgrifennodd Baruch yn y sgrôl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia. 5Yna rhoes y gorchymyn hwn i Baruch: “Fe'm rhwystrwyd i rhag mynd i dŷ'r ARGLWYDD, 6ond dos di, ac ar ddydd ympryd darllen o'r sgrôl, yng nghlyw'r bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, holl eiriau'r ARGLWYDD fel y lleferais hwy. Darllen hwy hefyd yng nghlyw holl bobl Jwda a ddaw o'u dinasoedd. 7Efallai y derbynnir eu gweddi gan yr ARGLWYDD, ac y bydd pob un yn troi o'i ffordd ddrygionus, oherwydd y mae'r llid a'r digofaint a fynegodd yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl hyn yn fawr.” 8Gwnaeth Baruch fab Nereia bob peth a orchmynnodd y proffwyd Jeremeia iddo, a darllenodd yn nhŷ'r ARGLWYDD eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr.
9Yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, yn y nawfed mis, cyhoeddwyd ympryd gerbron yr ARGLWYDD i drigolion Jerwsalem ac i'r holl bobl a ddaeth o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem. 10Yna darllenodd Baruch holl eiriau Jeremeia o'r sgrôl yng nghlyw'r holl bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia fab Saffan, yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf wrth y fynedfa i'r Porth Newydd yn nhŷ'r ARGLWYDD. 11Pan glywodd Michaia fab Gemareia, fab Saffan, holl eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr, 12aeth i lawr i dŷ'r brenin, i ystafell yr ysgrifennydd, ac yno yr oedd yr holl swyddogion yn eistedd: Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia fab Semaia, ac Elnathan fab Achbor, a Gemareia fab Saffan, a Sedeceia fab Hananeia, a'r holl swyddogion. 13Mynegodd Michaia iddynt bob peth a glywodd pan ddarllenodd Baruch o'r sgrôl yng nghlyw'r bobl. 14Yna anfonodd yr holl swyddogion Jehudi fab Nethaneia, fab Selemeia, fab Cushi, at Baruch a dweud, “Cymer yn dy law y sgrôl a ddarllenaist yng nghlyw'r bobl, a thyrd.” Cymerodd Baruch fab Nereia y sgrôl yn ei law, ac aeth atynt. 15Dywedasant hwythau wrtho, “Eistedd yma, a darllen hi inni.” Darllenodd Baruch, 16a phan glywsant y geiriau, troesant at ei gilydd mewn braw, a dweud wrth Baruch, “Rhaid inni fynegi hyn i gyd i'r brenin.” 17Gofynasant i Baruch, “Eglura inni yn awr sut y bu iti ysgrifennu'r holl eiriau hyn a ddywedodd.” 18Atebodd Baruch, “Ef ei hun oedd yn llefaru wrthyf yr holl eiriau hyn, a minnau'n eu hysgrifennu ag inc ar y sgrôl.” 19Yna dywedodd y swyddogion wrth Baruch, “Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia, a pheidiwch â gadael i neb wybod lle'r ydych.” 20Yna aethant at y brenin i'r llys, ar ôl iddynt gadw'r sgrôl yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd, a mynegwyd y cwbl yng nghlyw'r brenin.
Y Brenin yn Llosgi'r Sgrôl
21Yna anfonwyd Jehudi gan y brenin i gyrchu'r sgrôl, a daeth yntau â hi o ystafell Elisama yr ysgrifennydd; a darllenodd Jehudi hi yng nghlyw'r brenin a'r holl swyddogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin. 22Y nawfed mis oedd hi, ac yr oedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy, a'r rhwyll dân wedi ei chynnau o'i flaen. 23Pan fyddai Jehudi wedi darllen tair neu bedair colofn, torrai'r brenin hwy â chyllell yr ysgrifennydd, a'u taflu i'w llosgi yn y rhwyll dân, nes difa'r sgrôl gyfan yn y tân. 24Ond nid oedd y brenin na'i weision yn arswydo nac yn rhwygo'u dillad, wrth wrando ar yr holl eiriau hyn. 25Pan ymbiliodd Elnathan a Delaia a Gemareia ar y brenin i beidio â llosgi'r sgrôl, ni wrandawai arnynt. 26Yna gorchmynnodd y brenin i Jerahmeel fab y brenin a Seraia fab Asriel a Selemeia fab Abdiel ddal Baruch yr ysgrifennydd a Jeremeia y proffwyd; ond cuddiodd yr ARGLWYDD hwy.
Jeremeia'n Ysgrifennu Sgrôl Arall
27Wedi i'r brenin losgi'r sgrôl a'r holl eiriau a ysgrifennodd Baruch o enau Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, 28“Cymer sgrôl arall, ac ysgrifenna arni'r holl eiriau oedd yn y sgrôl gyntaf, yr un a losgodd Jehoiacim brenin Jwda. 29A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe losgaist ti'r sgrôl hon, gan ddweud, “Pam yr ysgrifennaist arni fod brenin Babilon yn sicr o ddod ac anrheithio'r wlad hon, nes darfod dyn ac anifail oddi arni?” 30Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda: Ni bydd iddo neb i eistedd ar orsedd Dafydd; teflir allan ei gelain i wres y dydd a rhew'r nos. 31Ymwelaf ag ef ac â'i had a'i weision am eu drygioni, a dwyn arnynt hwy a thrigolion Jerwsalem a phobl Jwda yr holl ddinistr a leferais yn eu herbyn, a hwythau heb wrando.’ ” 32Yna cymerodd Jeremeia sgrôl arall, a'i rhoi i Baruch fab Nereia, yr ysgrifennydd, ac ysgrifennodd ef ynddi o enau Jeremeia holl eiriau'r llyfr a losgodd Jehoiacim brenin Jwda. Ychwanegodd atynt hefyd lawer o eiriau tebyg.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004