No themes applied yet
Jeremeia mewn Pydew
1Clywodd Seffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pasur, Jucal fab Selemeia, a Pasur fab Malcheia y geiriau yr oedd Jeremeia'n eu llefaru wrth yr holl bobl, gan ddweud, 2“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pwy bynnag fydd yn aros yn y ddinas hon, fe fydd farw trwy gleddyf, newyn a haint; ond pwy bynnag fydd yn mynd allan at y Caldeaid, bydd hwnnw fyw; bydd yn arbed ei fywyd ac yn byw.’ 3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yn ddiau rhoir y ddinas hon yng ngafael llu brenin Babilon, a bydd ef yn ei hennill.’ ” 4Yna dywedodd y swyddogion wrth y brenin, “Atolwg, rhodder y dyn hwn i farwolaeth; oblegid y mae'n gwanhau dwylo gweddill y milwyr sydd yn y ddinas hon, a phawb o'r bobl, trwy lefaru fel hyn wrthynt. Nid yw'r dyn yn meddwl am les y bobl hyn, ond am eu niwed.” 5Atebodd y Brenin Sedeceia, “Y mae yn eich dwylo chwi; ni ddichon y brenin wneud dim i'ch gwrthwynebu yn y mater.” 6A chymerasant Jeremeia, a'i fwrw i bydew Malcheia, mab y brenin, yng nghyntedd y gwylwyr; gollyngasant Jeremeia i lawr wrth raffau. Nid oedd dŵr yn y pydew, dim ond llaid, a suddodd Jeremeia yn y llaid.
7Clywodd Ebed-melech yr Ethiopiad, eunuch ym mhlasty'r brenin, eu bod wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Yr oedd y brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin, 8ac aeth Ebed-melech allan o'r plasty at y brenin a dweud, 9“F'arglwydd frenin, gwnaeth y gwŷr hyn ddrwg ym mhob peth a wnaethant i'r proffwyd Jeremeia, trwy ei fwrw i'r pydew; bydd farw yn y lle gan y newyn, am nad oes bara mwyach yn y ddinas.” 10Yna gorchmynnodd y brenin i Ebed-melech yr Ethiopiad, “Cymer gyda thi dri38:10 Felly un llawysgrif. TM, ddeg ar hugain. o wŷr, a chodi'r proffwyd Jeremeia o'r pydew cyn iddo farw.” 11Cymerodd Ebed-melech y gwŷr ac aeth i'r ystafell wisgo38:11 Tebygol. Hebraeg, i'r ystafell dan y trysordy. yn y plasty, a chymryd oddi yno hen garpiau a hen fratiau, a'u gollwng i lawr wrth raffau at Jeremeia yn y pydew. 12A dywedodd Ebed-melech yr Ethiopiad wrth Jeremeia, “Gosod yr hen garpiau a'r bratiau dan dy geseiliau o dan y rhaffau.” Gwnaeth Jeremeia felly. 13A thynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, a'i godi o'r pydew. Wedi hyn arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.
Sedeceia'n Ceisio Cyngor Jeremeia
14Anfonodd y Brenin Sedeceia i gyrchu'r proffwyd Jeremeia ato yn y trydydd cyntedd i dŷ'r ARGLWYDD, a dywedodd wrth Jeremeia, “Yr wyf am ofyn rhywbeth i ti; paid â chelu dim oddi wrthyf.” 15Dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Os mynegaf i ti, oni roi fi i farwolaeth? Os rhof gyngor i ti, ni wrandewi arnaf.” 16Ond tyngodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia yn gyfrinachol, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a roes einioes inni, yn fyw, ni'th rof i farwolaeth, na'th roi yng ngafael y rhai hyn sy'n ceisio dy einioes.” 17Yna dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, Duw Israel: ‘Os ei allan ac ymostwng i swyddogion brenin Babilon, yna byddi fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; byddi fyw, ti a'th dylwyth. 18Os nad ei allan at swyddogion brenin Babilon, rhoir y ddinas hon yng ngafael y Caldeaid, ac fe'i llosgant hi â thân, ac ni fyddi dithau'n dianc o'u gafael.’ ” 19A dywedodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia, “Y mae arnaf ofn yr Iddewon a drodd at y Caldeaid, rhag iddynt fy rhoi yn eu gafael ac iddynt fy ngham-drin.” 20Dywedodd Jeremeia, “Ni'th roddir yn eu gafael. Gwrando yn awr ar lais yr ARGLWYDD yn yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthyt, a bydd yn dda iti, a chedwir dy einioes. 21Os gwrthodi fynd allan, dyma'r gair a ddatguddiodd yr ARGLWYDD i mi: 22‘Wele, caiff yr holl wragedd a adawyd yn nhŷ brenin Jwda eu dwyn allan at swyddogion brenin Babilon, ac fe ddywedant,
“Hudodd dy gyfeillion di, a buont yn drech na thi;
yn awr, a'th draed wedi glynu yn y llaid, troesant draw oddi wrthyt.’ ”
23Dygir allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u gafael, ond fe'th ddelir yng ngafael brenin Babilon, a llosgir y ddinas hon â thân.”
24Yna dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, “Paid â gadael i neb wybod am y geiriau hyn, ac ni fyddi farw. 25Ond os clyw'r swyddogion i mi ymddiddan â thi, a dod atat a dweud wrthyt, ‘Mynega i ni beth a draethodd y brenin wrthyt ti, a beth a ddywedaist wrth y brenin; paid â chelu dim oddi wrthym, ac ni'th roddwn i farwolaeth’, 26yna dywedi wrthynt, ‘Yr oeddwn yn gwneud cais yn ostyngedig i'r brenin, ar iddo beidio â'm gyrru'n ôl i dŷ Jonathan i farw yno.’ ” 27Pan ddaeth yr holl swyddogion at Jeremeia, a'i holi, mynegodd ef iddynt bob peth yn ôl gorchymyn y brenin. A pheidiasant â'i holi ragor, ac ni chlywyd am y neges. 28Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr hyd y dydd y syrthiodd Jerwsalem, ac yr oedd yno pan syrthiodd Jerwsalem.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004