No themes applied yet
Galwad i Edifeirwch
1“Os dychweli, Israel,” medd yr ARGLWYDD, “os dychweli ataf fi,
a rhoi heibio dy ffieidd-dra o'm gŵydd, a pheidio â simsanu,
2ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, ‘Byw yw yr ARGLWYDD’,
yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo.”
3Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth bobl Jwda a Jerwsalem:
“Braenarwch i chwi fraenar, a pheidiwch â hau mewn drain.
4Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon,
bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,
rhag i'm digofaint ddod allan fel tân
a llosgi heb neb i'w ddiffodd,
oherwydd drygioni eich gweithredoedd.”
Gelyn o'r Gogledd
5“Mynegwch yn Jwda, cyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch,
‘Canwch utgorn yn y tir, bloeddiwch yn uchel.’
A dywedwch, ‘Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.’
6Codwch, ffowch4:6 Felly Groeg. Hebraeg, Codwch faner. tua Seion, ffowch heb sefyllian;
oherwydd dygaf ddrygioni o'r gogledd, a dinistr mawr.
7Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd,
a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith,
ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.
8Am hyn ymwregyswch â sachliain, galarwch ac udwch;
oherwydd nid yw angerdd llid yr ARGLWYDD wedi troi oddi wrthym.
9Ac yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,
“fe balla hyder y brenin a hyder y tywysogion;
fe synna'r offeiriaid, ac fe ryfedda'r proffwydi.”
10Yna dywedais, “O ARGLWYDD Dduw,
yr wyt wedi llwyr dwyllo'r bobl hyn a Jerwsalem,
gan ddweud, ‘Bydd heddwch i chwi’;
ond trywanodd y cleddyf i'r byw.”
11Yn yr amser hwnnw fe ddywedir wrth y bobl hyn ac wrth Jerwsalem,
“Bydd craswynt o'r moelydd uchel yn y diffeithwch
yn troi i gyfeiriad merch fy mhobl,
12nid i nithio nac i buro. Daw gwynt cryf ataf fi4:12 Felly Groeg. Hebraeg yn ychwanegu ohonynt.;
yn awr myfi, ie myfi, a draethaf farn yn eu herbyn hwy.”
13Wele, bydd yn esgyn fel cymylau, a'i gerbydau fel corwynt,
ei feirch yn gyflymach nag eryrod.
Gwae ni! Anrheithiwyd ni.
14Golch dy galon oddi wrth ddrygioni, Jerwsalem, iti gael dy achub.
Pa hyd y lletya d'amcanion drygionus o'th fewn?
15Clyw! Cennad o wlad Dan, ac un yn cyhoeddi gofid o Fynydd Effraim,
16“Rhybuddiwch y cenhedloedd: ‘Dyma ef!’
Cyhoeddwch i Jerwsalem: ‘Daw gwŷr i'ch gwarchae o wlad bell,
a chodi eu llais yn erbyn dinasoedd Jwda.
17Fel gwylwyr maes fe'i hamgylchynant,
am iddi wrthryfela yn fy erbyn i,’ ” medd yr ARGLWYDD.
Gofid Jeremeia dros ei Bobl
18“Dy ffordd a'th weithredoedd sydd wedi dod â hyn arnat.
Dyma dy gosb, ac un chwerw yw; fe'th drawodd hyd at dy galon.”
19Fy ngwewyr! Fy ngwewyr! Rwy'n gwingo mewn poen.
O, barwydydd fy nghalon!
Y mae fy nghalon yn derfysg ynof; ni allaf dewi.
Canys clywaf4:19 Neu, clywi. sain utgorn, twrf rhyfel.
20Daw4:20 Neu, Cyhoeddir. dinistr ar ddinistr, anrheithir yr holl dir.
Yn ddisymwth anrheithir fy mhebyll, a'm llenni mewn eiliad.
21Pa hyd yr edrychaf ar faner,
ac y gwrandawaf ar sain utgorn?
22Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i;
plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt.
Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.
23Edrychais tua'r ddaear—afluniaidd a gwag ydoedd;
tua'r nefoedd—ond nid oedd yno oleuni.
24Edrychais tua'r mynyddoedd,
ac wele hwy'n crynu,
a'r holl fryniau yn gwegian.
25Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll;
ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.
26Edrychais, ac wele'r dolydd yn ddiffeithwch,
a'r holl ddinasoedd yn ddinistr,
o achos yr ARGLWYDD, o achos angerdd ei lid.
27Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Bydd yr holl wlad yn anrhaith,
ond ni wnaf ddiwedd arni.
28Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry,
oherwydd imi fynegi fy mwriad;
ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn ôl oddi wrtho.”
29Rhag trwst marchogion a phlygwyr bwa y mae'r holl ddinas yn ffoi,
yn mynd i'r drysni ac yn dringo i'r creigiau.
Gadewir yr holl ddinasoedd heb neb i drigo ynddynt.
30A thithau'n anrheithiedig,
beth wyt ti'n ei wneud wedi dy wisgo ag ysgarlad,
ac wedi ymdrwsio â thlysau aur, a lliwio dy lygaid?
Yn ofer yr wyt yn dy wneud dy hun yn deg.
Bydd dy gariadon yn dy ddirmygu,
ac yn ceisio dy einioes.
31Ie, clywaf gri fel gwraig yn esgor,
llef ingol fel un yn esgor ar ei chyntafanedig—
cri merch Seion yn ochain, ac yn gwasgu ar ei dwylo:
“Gwae fi! Rwy'n diffygio, a'r lleiddiaid am fy einioes.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004