No themes applied yet
1Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elisama, o deulu'r brenin, a chydag ef bendefigion y brenin, deg ohonynt, i Mispa at Gedaleia fab Ahicam; a thra oeddent yn bwyta pryd gyda'i gilydd yn Mispa, 2cododd Ismael fab Nethaneia a'r dengwr, a tharo Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, â'r cleddyf, a lladd yr un oedd wedi ei osod gan frenin Babilon yn arolygydd dros y wlad. 3Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.
4Trannoeth wedi lladd Gedaleia, cyn bod neb yn gwybod, 5daeth gwŷr o Sichem a Seilo a Samaria, pedwar ugain ohonynt, wedi eillio'u barfau a rhwygo'u dillad ac archolli eu cyrff, â bwydoffrymau a thus yn eu dwylo i'w dwyn i deml yr ARGLWYDD. 6Yna daeth Ismael fab Nethaneia allan o Mispa i gyfarfod â hwy, gan wylo wrth ddod. Pan gyfarfu â hwy dywedodd, “Dewch at Gedaleia fab Ahicam.” 7Wedi iddynt gyrraedd canol y ddinas, lladdwyd hwy gan Ismael fab Nethaneia a'r gwŷr oedd gydag ef, a'u bwrw i bydew. 8Ond dywedodd deg o ddynion o'u plith wrth Ismael, “Paid â'n lladd ni, oherwydd y mae gennym yn y maes gronfa gudd o wenith a haidd ac olew a mêl.” Felly ni laddwyd y rhain gyda'u cymdeithion. 9Y pydew yr oedd y Brenin Asa wedi ei gloddio pan fygythiwyd ef gan Baasa brenin Israel oedd yr un y bwriodd Ismael iddo holl gelaneddau'r gwŷr yr oedd wedi eu lladd trwy eu twyllo ag enw Gedaleia. Llanwodd Ismael fab Nethaneia y pydew â'r lladdedigion. 10Yna daliodd Ismael holl weddill y bobl oedd yn Mispa, sef merched y brenin a'r holl bobl oedd wedi eu gadael yn Mispa pan osododd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, Gedaleia fab Ahicam yn arolygydd drostynt. Daliodd Ismael fab Nethaneia hwy, a chychwynnodd fynd drosodd at yr Ammoniaid.
11Pan glywodd Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd arfog oedd gydag ef, am yr holl ddrwg yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi ei wneud, 12cymerasant gyda hwy eu holl wŷr i ymladd yn erbyn Ismael fab Nethaneia, a daethant o hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon. 13Llawenychodd yr holl bobl oedd gydag Ismael pan welsant Johanan fab Carea a holl swyddogion ei luoedd, 14a dyna'r holl bobl yr oedd Ismael wedi eu dwyn yn gaeth o Mispa yn troi ac yn mynd drosodd at Johanan fab Carea. 15Ond dihangodd Ismael fab Nethaneia, ac wyth o ddynion gydag ef, oddi wrth Johanan, a mynd drosodd at yr Ammoniaid. 16Yna cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion ei luoedd bawb oedd ar ôl o'r bobl yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi eu dwyn o Mispa, ar ôl iddo ladd Gedaleia fab Ahicam. Dygodd ef yn ôl o Gibeon ddynion a gwŷr rhyfel, gwragedd a phlant ac eunuchiaid. 17Aethant oddi yno ac aros yn llety Chimham, yn ymyl Bethlehem, ar eu ffordd wrth ffoi i'r Aifft 18rhag y Caldeaid; oblegid yr oeddent yn eu hofni hwy am fod Ismael fab Nethaneia wedi lladd Gedaleia fab Ahicam, y gŵr a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004