No themes applied yet
Cymryd Jeremeia i'r Aifft
1Pan orffennodd Jeremeia lefaru wrth y bobl yr holl eiriau a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw atynt drwyddo ef, 2atebodd Asareia fab Hosaia a Johanan fab Carea a'r holl rai sarhaus, a dweud wrth Jeremeia, “Dweud celwydd yr wyt; ni orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw iti ddweud, ‘Peidiwch â mynd i fyw i'r Aifft.’ 3Baruch fab Nereia sydd wedi dy annog di yn ein herbyn, er mwyn ein rhoi yng ngafael y Caldeaid, iddynt hwy ein lladd neu ein caethgludo i Fabilon.” 4Ac ni wrandawodd Johanan fab Carea, a swyddogion y llu a'r bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i aros yn nhir Jwda. 5Ond cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion y llu holl weddill Jwda, a oedd wedi dychwelyd i drigo yng ngwlad Jwda o blith yr holl genhedloedd y gwasgarwyd hwy yn eu plith— 6y gwŷr, y gwragedd a'r plant, merched y brenin a phawb yr oedd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, wedi eu gadael gyda Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan; a hefyd y proffwyd Jeremeia a Baruch fab Nereia. 7Ac aethant i wlad yr Aifft, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD, a chyrraedd Tahpanhes.
8Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia yn Tahpanhes: 9“Cymer gerrig mawr, ac yng ngŵydd pobl Jwda gosod hwy mewn morter yn y palmant wrth ddrws tŷ Pharo yn Tahpanhes, 10a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Dyma fi'n anfon i gyrchu fy ngwas, Nebuchadnesar brenin Babilon, a chodaf ei orsedd ar y cerrig hyn a osodais, ac fe daena ef ei ortho drostynt. 11Yna fe ddaw a tharo gwlad yr Aifft, gan ladd y rhai sydd i'w lladd, a chaethiwo'r rhai sydd i fynd i gaethiwed, a rhoi i'r cleddyf y rhai sydd i'w rhoi i'r cleddyf. 12Bydd43:12 Felly Groeg. Hebraeg, Byddaf. yn cynnau tân yn nhemlau duwiau'r Aifft ac yn eu llosgi, a chario'r duwiau ymaith. A bydd yn glanhau gwlad yr Aifft fel y bydd bugail yn glanhau ei wisg o'r llau; ac yna'n mynd ymaith mewn heddwch. 13Bydd yn malu'r colofnau yn Nheml yr Haul yng ngwlad yr Aifft, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft â thân.’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004