No themes applied yet
Neges yr ARGLWYDD i'r Iddewon yn yr Aifft
1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am yr holl Iddewon oedd yn byw yng ngwlad yr Aifft, sef yn Migdol, Tahpanhes a Noff, ac ym mro Pathros: 2“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Gwelsoch yr holl ddinistr a ddygais ar Jerwsalem ac ar holl ddinasoedd Jwda; y maent heddiw yn anghyfannedd, heb neb yn byw ynddynt, 3o achos y drygioni a wnaethant i'm digio, gan losgi arogldarth ac addoli duwiau eraill nad oeddent hwy na chwithau na'ch hynafiaid yn eu hadnabod. 4Anfonais atoch fy holl weision y proffwydi, a'u hanfon yn gyson i ddweud, “Yn wir, peidiwch â chyflawni'r ffieiddbeth hwn sydd yn gas gennyf.” 5Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i droi oddi wrth eu drygioni ac i beidio ag arogldarthu i dduwiau eraill. 6Felly tywalltwyd fy llid a'm digofaint, a llosgi yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a'u gwneud yn anghyfannedd a diffaith, fel y maent heddiw.’ 7Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: ‘Pam yr ydych yn gwneud y drwg mawr hwn yn eich erbyn eich hunain, a thorri ymaith o Jwda ŵr a gwraig, plentyn a baban, fel nad oes gennych weddill yn aros? 8Pam yr ydych yn fy nigio i â gwaith eich dwylo, ac yn arogldarthu i dduwiau eraill yng ngwlad yr Aifft, lle y daethoch i fyw, gan eich difetha eich hunain, a bod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear? 9A ydych wedi anghofio drygioni eich hynafiaid a drygioni brenhinoedd Jwda a drygioni eu gwragedd44:9 Felly Groeg. Hebraeg, ei wragedd., a'ch drygioni chwi eich hunain a'ch gwragedd, a wnaed yn nhir Jwda ac yn heolydd Jerwsalem? 10Hyd heddiw nid ydych wedi ymostwng, nac ofni, na rhodio yn fy nghyfraith a'm deddfau, a roddais o'ch blaen ac o flaen eich hynafiaid.’
11“Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Yr wyf yn gosod fy wyneb yn eich erbyn er niwed, i ddifetha holl Jwda. 12Cymeraf weddill Jwda, a ddewisodd fynd i wlad yr Aifft i aros yno, a difethir hwy oll. Yng ngwlad yr Aifft y syrthiant; trwy gleddyf a newyn y difethir hwy; yn fach a mawr, byddant farw trwy gleddyf a newyn, a byddant yn destun melltith ac arswyd, gwawd a gwarth. 13Cosbaf y rhai sy'n byw yng ngwlad yr Aifft, fel y cosbais Jerwsalem drwy gleddyf a newyn a haint. 14Ymysg gweddill Jwda, a ddaeth i aros yng ngwlad yr Aifft, ni fydd un yn dianc nac wedi ei adael i ddychwelyd i wlad Jwda, er iddynt ddyheu am gael dychwelyd i fyw yno. Ni ddychwelant yno, ar wahân i ffoaduriaid.’ ”
15Yna atebwyd Jeremeia gan y gwŷr a wyddai fod eu gwragedd yn arogldarthu i dduwiau eraill, a chan yr holl wragedd oedd yn sefyll gerllaw yn gynulleidfa fawr, a'r holl bobl oedd yn trigo yn Pathros yn yr Aifft. 16“Nid ydym am wrando arnat,” meddent, “yn y mater y lleferaist amdano wrthym yn enw'r ARGLWYDD. 17Yn hytrach, yr ydym am fynnu gwneud yn ôl pob addewid a wnaethom i ni ein hunain; yr ydym am arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi ddiodoffrwm, fel y gwnaethom o'r blaen yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, ni a'n hynafiaid, ein brenhinoedd a'n tywysogion. Yr oeddem yn cael digon o fara, a bu'n dda arnom, ac ni welsom ddrwg. 18Byth er yr adeg y peidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd a thywallt diodoffrwm iddi, bu arnom eisiau pob dim, ac fe'n dinistriwyd â'r cleddyf ac â newyn. 19Pan oeddem yn arogldarthu i frenhines y nefoedd ac yn tywallt diodoffrwm iddi, ai heb i'n gwŷr hefyd gymeradwyo y gwnaethom iddi deisennau ar ei llun, neu dywallt diodoffrwm iddi?” 20A dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl, yn wŷr ac yn wragedd, a oedd wedi rhoi iddo yr ateb hwn, 21“Onid yr arogldarthu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch tywysogion, a phobl y wlad yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem yw'r peth a gofiodd yr ARGLWYDD? Oni ddaeth hyn i'w feddwl? 22Ni allai'r ARGLWYDD oddef yn hwy eich gweithredoedd drwg, a'r ffieiddbeth a wnaethoch; a gwnaeth eich gwlad yn anghyfannedd, ac yn syndod ac yn felltith, heb breswylydd, fel y mae heddiw. 23Oherwydd ichwi arogldarthu, a phechu felly yn erbyn yr ARGLWYDD, ac am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, na rhodio yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau na'i dystiolaethau, oherwydd hynny y digwyddodd yr aflwydd hwn i chwi, fel y gwelir heddiw.”
24Dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl a'r holl wragedd, “Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft. 25Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Gwnaethoch chwi a'ch gwragedd addewid â'ch genau, a'i chyflawni â'ch dwylo, gan ddweud, “Yr ydym am gyflawni'r addunedau a addunedwyd gennym i arogldarthu i frenhines y nef a thywallt diodoffrwm iddi.” Cyflawnwch, ynteu, eich addunedau, a thalwch hwy.’ 26Ond gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sy'n byw yng ngwlad yr Aifft. ‘Tyngais innau i'm henw mawr,’ medd yr ARGLWYDD, ‘na fydd f'enw mwyach ar wefus neb o bobl Jwda yn holl wlad yr Aifft, i ddweud, “Byw fyddo'r Arglwydd DDUW”. 27Dyma fi'n effro i ddwyn drygioni arnynt, ac nid daioni; difethir â'r cleddyf ac â newyn holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft, nes y bydd diwedd arnynt. 28A'r rhai a ddihanga rhag y cleddyf, dychwelant o wlad yr Aifft i dir Jwda yn ychydig o nifer; a chaiff holl weddill Jwda, a ddaeth i wlad yr Aifft i aros yno, ystyried gair pwy a saif, fy ngair i ynteu eu gair hwy.’
29“ ‘Dyma'r arwydd i chwi,’ medd yr ARGLWYDD: ‘Cosbaf chwi yn y lle hwn er mwyn i chwi wybod fod fy ngeiriau'n sefyll yn gadarn yn eich erbyn er drwg.’ 30Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf fi'n rhoi Pharo Hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, a'r rhai sy'n ceisio'i einioes, fel y rhoddais Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, ei elyn a oedd yn ceisio'i einioes.’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004