No themes applied yet
Goresgyn Babilon
1Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD am Fabilon, gwlad y Caldeaid, trwy'r proffwyd Jeremeia:
2“Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch;
codwch faner a chyhoeddwch;
peidiwch â chelu ond dywedwch,
‘Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, brawychwyd Merodach.
Daeth cywilydd dros ei heilunod a drylliwyd ei delwau.’
3Canys daeth cenedl yn ei herbyn o'r gogledd;
gwna ei gwlad yn anghyfannedd,
ac ni thrig ynddi na dyn nac anifail.
Ffoesant ac aethant ymaith.”
4“Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “daw pobl Israel a phobl Jwda ynghyd gan wylo, i ymofyn am yr ARGLWYDD eu Duw. 5Holant am Seion, i droi eu hwyneb tuag yno, a dweud, ‘Dewch, glynwn wrth yr ARGLWYDD mewn cyfamod tragwyddol nas anghofir.’
6“Praidd ar ddisberod oedd fy mhobl; gyrrodd eu bugeiliaid hwy ar gyfeiliorn, a'u troi ymaith ar y mynyddoedd; crwydrasant o fynydd i fryn, gan anghofio'u corlan. 7Yr oedd pob un a ddôi o hyd iddynt yn eu difa, a'u gelynion yn dweud, ‘Nid oes dim bai arnom ni, oherwydd y maent wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, eu gwir gynefin—yr ARGLWYDD, gobaith eu hynafiaid.’
8“Ffowch o ganol Babilon, ewch allan o wlad y Caldeaid,
a safwch fel y bychod o flaen y praidd;
9canys wele fi'n cynhyrfu ac yn arwain yn erbyn Babilon
dyrfa o genhedloedd mawrion o dir y gogledd;
safant yn rhengoedd yn ei herbyn;
ac oddi yno y goresgynnir hi.
Y mae eu saethau fel rhai milwr cyfarwydd na ddychwel yn waglaw.
10Ysbail fydd Caldea, a chaiff ei holl ysbeilwyr eu gwala,” medd yr ARGLWYDD.
11“Chwi, y rhai sy'n mathru f'etifeddiaeth,
er ichwi lawenhau, er ichwi orfoleddu,
er ichwi brancio fel llo mewn porfa,
er ichwi weryru fel meirch,
12caiff eich mam ei chywilyddio'n ddirfawr,
a gwaradwyddir yr un a roes enedigaeth ichwi.
Ie, bydd yn wehilion y cenhedloedd,
yn anialwch, yn grastir ac yn ddiffeithwch.
13Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD, ni phreswylir hi,
ond bydd yn anghyfannedd i gyd;
bydd pawb sy'n mynd heibio i Fabilon yn arswydo
ac yn synnu at ei holl glwyfau.
14“Trefnwch eich rhengoedd yn gylch yn erbyn Babilon,
bawb sy'n tynnu bwa;
ergydiwch ati, heb arbed saethau,
canys yn erbyn yr ARGLWYDD y pechodd.
15Bloeddiwch yn ei herbyn mewn goruchafiaeth, o bob cyfeiriad:
‘Gwnaeth arwydd o ymostyngiad,
cwympodd ei hamddiffynfeydd,
bwriwyd ei muriau i lawr.’
Gan mai dial yr ARGLWYDD yw hyn,
dialwch arni;
megis y gwnaeth hi, gwnewch iddi hithau.
16Torrwch ymaith o Fabilon yr heuwr,
a'r sawl sy'n trin cryman ar adeg medi.
Rhag cleddyf y gorthrymwr
bydd pob un yn troi at ei bobl ei hun,
a phob un yn ffoi i'w wlad.
17“Praidd ar wasgar yw Israel,
a'r llewod yn eu hymlid.
Brenin Asyria a'u hysodd gyntaf, yna Nebuchadnesar brenin Babilon yn olaf oll a gnodd eu hesgyrn. 18Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Yr wyf am gosbi brenin Babilon, a'i wlad, fel y cosbais frenin Asyria. 19Ac adferaf Israel i'w borfa, ac fe bora ar Garmel ac yn Basan; digonir ei chwant ar fynydd-dir Effraim a Gilead. 20Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn ofer y ceisir drygioni Israel, ac ni cheir pechod Jwda; oherwydd maddeuaf i'r rhai a adawaf yn weddill.’
21“Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim,
ac yn erbyn trigolion Pecod;
anrheithia hi, difetha hi'n llwyr,” medd yr ARGLWYDD.
“Gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnaf i ti.
22Clyw! Rhyfel yn y wlad!
Dinistr mawr!
23Gwêl fel y drylliwyd gordd yr holl ddaear,
ac y torrwyd hi'n dipiau.
Gwêl fel yr aeth Babilon yn syndod
ymhlith y cenhedloedd.
24Gosodais fagl i ti, Babilon,
a daliwyd di heb yn wybod iti;
fe'th gafwyd ac fe'th ddaliwyd
am iti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD.
25Agorodd yr ARGLWYDD ei ystordy,
a dwyn allan arfau ei ddigofaint;
oherwydd gwaith ARGLWYDD Dduw y Lluoedd yw hyn
yng ngwlad y Caldeaid.
26Dewch yn ei herbyn o'r cwr eithaf,
ac agorwch ei hysguboriau hi;
gwnewch bentwr ohoni fel pentwr ŷd,
a'i difetha'n llwyr, heb weddill iddi.
27Lladdwch ei holl fustych hi,
a gadael iddynt ddisgyn i'r lladdfa.
Gwae hwy! Daeth eu dydd,
ac amser eu cosbi.
28Clyw! Y maent yn ffoi ac yn dianc o wlad Babilon,
i gyhoeddi yn Seion ddial yr ARGLWYDD ein Duw,
ei ddial am ei deml.
29“Galwch y saethwyr yn erbyn Babilon,
pob un sy'n tynnu bwa;
gwersyllwch yn ei herbyn o amgylch,
rhag i neb ddianc ohoni.
Talwch iddi yn ôl ei gweithred,
ac yn ôl y cwbl a wnaeth gwnewch iddi hithau;
canys bu'n drahaus yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.
30Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd,
a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.
31“Dyma fi yn dy erbyn di, yr un balch,”
medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,
“canys daeth dy ddydd, a'r awr i mi dy gosbi.
32Tramgwydda'r balch a syrth heb neb i'w godi;
cyneuaf yn ei ddinasoedd dân fydd yn difa'i holl amgylchedd.”
33Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gorthrymwyd pobl Israel, a phobl Jwda gyda hwy; daliwyd hwy'n dynn gan bawb a'u caethiwodd, a gwrthod eu gollwng. 34Ond y mae eu Gwaredwr yn gryf; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Bydd ef yn dadlau eu hachos yn gadarn, ac yn dwyn llonydd i'w wlad, ond aflonyddwch i breswylwyr Babilon.
35“Cleddyf ar y Caldeaid,” medd yr ARGLWYDD,
“ar breswylwyr Babilon,
ar ei swyddogion a'i gwŷr doeth!
36Cleddyf ar ei dewiniaid,
iddynt fynd yn ynfydion!
Cleddyf ar ei gwŷr cedyrn,
iddynt gael eu difetha!
37Cleddyf ar ei meirch a'i cherbydau,
ac ar y milwyr cyflog yn ei chanol,
iddynt fod fel merched!
Cleddyf ar ei holl drysorau,
iddynt gael eu hysbeilio!
38Cleddyf50:38 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, Sychder. ar ei dyfroedd,
iddynt sychu!
Oherwydd gwlad delwau yw hi,
wedi ynfydu ar eilunod.
39“Am hynny bydd anifeiliaid yr anialdir a'r hiena yn trigo yno, a'r estrys yn cael cartref yno; ni fydd neb yn preswylio yno mwyach, ac nis cyfanheddir o genhedlaeth i genhedlaeth. 40Fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra a'u cymdogaeth,” medd yr ARGLWYDD, “felly ni fydd neb yn byw yno, nac unrhyw un yn tramwyo ynddi.
41“Wele, y mae pobl yn dod o'r gogledd—
cenedl fawr a brenhinoedd lawer
yn ymysgwyd o bellteroedd byd.
42Gafaelant yn y bwa a'r waywffon;
y maent yn greulon a didostur;
y mae eu twrf fel y môr yn rhuo;
marchogant ar feirch,
a dod yn rhengoedd fel gwŷr i ryfel
yn dy erbyn di, ferch Babilon.
43Clywodd brenin Babilon sôn amdanynt,
ac aeth ei ddwylo'n llesg;
daliwyd ef gan wasgfa,
a gwewyr fel eiddo gwraig wrth esgor.
44“Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, fe'u hymlidiaf ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i? 45Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, a'i gynlluniau yn erbyn gwlad y Caldeaid. Yn ddiau fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn wir bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid. 46Bydd y ddaear yn crynu gan sŵn dal Babilon; clywir ei chri ymhlith y cenhedloedd.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004