No themes applied yet
1“Yr wyf wedi alaru ar fy mywyd;
rhoddaf ryddid i'm cwyn,
llefaraf o chwerwedd fy ysbryd.
2Dywedaf wrth Dduw, ‘Paid â'm collfarnu i;
dangos imi pam y dadleui â mi.
3Ai da yw i ti orthrymu,
a throi heibio lafur dy ddwylo,
a ffafrio cyngor y drygionus?
4Ai llygaid o gnawd sydd gennyt,
neu a weli di fel y gwêl y meidrol?
5A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn,
a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gŵr?
6Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd,
ac yn chwilio am fy mhechod,
7a thithau'n gwybod nad wyf yn euog,
ac nad oes a'm gwared o'th law.
8“ ‘Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd,
ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.
9Cofia iti fy llunio fel clai,
ac eto i'r pridd y'm dychweli.
10Oni thywelltaist fi fel llaeth,
a'm ceulo fel caws?
11Rhoist imi groen a chnawd,
a phlethaist fi o esgyrn a gïau.
12Rhoist imi fywyd a daioni,
a diogelodd dy ofal fy einioes.
13Ond cuddiaist y rhain yn dy galon;
gwn mai dyna dy fwriad.
14Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf,
ac ni'm rhyddhei o'm camwedd.
15Os wyf yn euog, gwae fi,
ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen.
Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder.
16Os ymffrostiaf, yr wyt fel llew yn fy hela,
ac yn parhau dy orchestion yn f'erbyn.
17Yr wyt yn dwyn cyrch ar gyrch arnaf,
ac yn cynyddu dy lid ataf,
ac yn gosod dy luoedd yn f'erbyn.
18“ ‘Pam y dygaist fi allan o'r groth?
O na fuaswn farw cyn i lygad fy ngweld!
19O na fyddwn fel un heb fod,
yn cael fy nwyn o'r groth i'r bedd!
20Onid prin yw dyddiau fy rhawd?10:20 Felly Groeg. Hebraeg yn ansicr.
Tro oddi wrthyf, imi gael ychydig lawenydd
21cyn imi fynd i'r lle na ddychwelaf ohono,
i dir tywyllwch a'r fagddu,
22tir y tywyllwch dudew, y gwyll a'r fagddu, goleuni fel y tywyllwch.’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004