No themes applied yet
1Atebodd Soffar y Naamathiad:
2“Oni ddylid ateb y pentyrru hwn ar eiriau?
A gyfiawnheir rhywun siaradus?
3A wneir pawb yn fud gan dy faldorddi?
A gei di watwar heb neb i'th geryddu?
4Dywedaist, ‘Y mae f'athrawiaeth yn bur,
a dilychwin wyf yn d'olwg.’
5O na lefarai Duw,
ac agor ei wefusau i siarad â thi,
6a hysbysu iti gyfrinachau doethineb,
a bod dwy ochr i ddeall!
Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.
7A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,
neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?
8Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?
Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?
9Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,
ac yn ehangach na'r môr.
10“Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,
pwy a'i rhwystra?
11Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,
a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?
12A ddaw'r dwl yn ddeallus—
asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?
13“Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,
fe estynni dy ddwylo tuag ato;
14ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt,
ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;
15yna gelli godi dy olwg heb gywilydd,
a byddi'n gadarn a di-ofn.
16Fe anghofi orthrymder;
fel dŵr a giliodd y cofi amdano.
17Bydd gyrfa bywyd yn oleuach na chanol dydd,
a'r gwyll fel boreddydd.
18Byddi'n hyderus am fod gobaith,
ac wedi edrych o'th gwmpas, fe orweddi'n ddiogel.
19Fe orffwysi heb neb i'th ddychryn;
a bydd llawer yn ceisio dy ffafr.
20Palla llygaid y drygionus,
diflanna ymwared oddi wrthynt,
a'u gobaith yw'r anadl olaf.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004