No themes applied yet
1“Gwelodd fy llygad hyn i gyd;
clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall.
2Rwyf finnau'n deall gystal â chwithau;
nid wyf yn ddim salach na chwi.
3Eto â'r Hollalluog y dymunaf siarad,
a dadlau fy achos gyda Duw;
4ond yr ydych chwi'n palu celwydd,
a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd.
5O na fyddech yn cadw'n ddistaw!
Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi.
6Gwrandewch yn awr ar fy achos,
a rhowch ystyriaeth i'm dadl.
7A ddywedwch gelwydd dros Dduw,
a thwyll er ei fwyn?
8A gymerwch chwi ei blaid,
a dadlau dros Dduw?
9A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi?
A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?
10Bydd ef yn sicr o'ch ceryddu
os cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.
11Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?
Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?
12Geiriau lludw yw eich gwirebau,
a chlai yw eich amddiffyniad.
13“Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru,
a doed a ddelo arnaf.
14Cymeraf13:14 Hebraeg, Pam y cymeraf. fy nghnawd rhwng fy nannedd,
a'm heinioes yn fy nwylo.
15Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi;
eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.
16A hyn sy'n rhoi hyder i mi,
na all neb annuwiol fynd ato.
17Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau,
a rhowch glust i'm tystiolaeth.
18Dyma fi wedi trefnu f'achos;
gwn y caf fy nghyfiawnhau.
19Pwy sydd i ddadlau â mi,
i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?
20Gwna ddau beth yn unig imi,
ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:
21symud dy law oddi arnaf,
fel na'm dychryner gan dy arswyd;
22yna galw arnaf ac atebaf finnau,
neu gad i mi siarad a rho di ateb.
23Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau?
Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.
24Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb,
ac yn f'ystyried yn elyn iti?
25A ddychryni di ddeilen grin,
ac ymlid soflyn sych?
26Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn,
a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid.
27Gosodaist fy nhraed mewn cyffion
(yr wyt yn gwylio fy holl ffyrdd),
a rhoist nod ar wadnau fy nhraed.
28Ond derfydd dyn13:28 Hebraeg, ef. fel costrel groen13:28 Felly Groeg. Hebraeg, fel pydredd.,
fel dilledyn wedi ei ysu gan wyfyn.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004