No themes applied yet
Yr Ail Gylch Areithio
15:1—21:34
1Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2“Ai ateb â gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth,
a llenwi ei fol â'r dwyreinwynt?
3A ddadleua ef â gair di-fudd,
ac â geiriau di-les?
4Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb,
ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw.
5Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau,
ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi.
6Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi,
a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn.
7“Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb?
A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau?
8A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach15:8 Neu, yng Nghyngor. Duw,
ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?
9Beth a wyddost ti na wyddom ni?
Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?
10Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus,
rhai sy'n hŷn na'th dad.
11Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw,
a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?
12Beth a ddaeth dros dy feddwl?
Pam y mae dy lygaid yn fflachio
13fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw,
ac yn arllwys y geiriau hyn?
14Sut y gall neb fod yn ddieuog,
ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn?
15Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd,
os nad yw'r nefoedd yn lân yn ei olwg,
16beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr,
ac yn yfed anghyfiawnder fel dŵr?
17“Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf.
Mynegaf i ti yr hyn a welais
18(yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud,
ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid;
19iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear,
ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith):
20bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes,
trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon.
21Sŵn dychryniadau sydd yn ei glustiau,
a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant.
22Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch;
y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf.
23Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur;
gŵyr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo.
24Brawychir ef gan ofid a chyfyngder;
llethir ef fel brenin parod i ymosod.
25Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw,
ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog,
26a rhuthro arno'n haerllug,
a both ei darian yn drwchus;
27oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster,
ac i'w lwynau dewychu â bloneg,
28fe drig mewn dinasoedd diffaith,
mewn tai heb neb yn byw ynddynt,
lleoedd sydd ar fin adfeilio.
29Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth,
ac ni chynydda'i olud15:29 Hebraeg yn ddyrys. yn y tir.
30Ni ddianc rhag y tywyllwch.
Deifir ei frig gan y fflam,
a syrth ei flagur15:30 Cymh. Groeg. Hebraeg, ei enau. yn y gwynt.
31Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun,
canys gwagedd fydd ei dâl.
32Bydd yn gwywo cyn ei amser,
ac ni lasa'i gangen.
33Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden,
a bwrw ei flodau fel olewydden.
34Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol,
ac fe ysa'r tân drigfannau breibwyr.
35Beichiogant ar flinder ac ymddŵyn drwg,
ac ar dwyll yr esgor eu croth.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004