No themes applied yet
1Atebodd Job:
2“Gwrandewch eto ar fy ngeiriau;
felly y rhowch gysur imi.
3Goddefwch i mi lefaru,
ac wedi imi lefaru, cewch watwar.
4Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun?
a pham na chaf fod yn ddiamynedd?
5Edrychwch arnaf, a synnwch,
a rhowch eich llaw ar eich genau.
6Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo,
a daw cryndod i'm cnawd.
7“Pam y caiff yr annuwiol fyw,
a heneiddio'n gadarnach eu nerth?
8Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas,
a'u teulu yn eu hymyl.
9Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn,
ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt.
10Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth,
a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu.
11Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid,
a dawnsia'u plant yn hapus.
12Canant gyda'r dympan a'r delyn,
a byddant lawen wrth sŵn y pibau.
13Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd,
a disgynnant i Sheol mewn heddwch.
14Dywedant wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym;
ni fynnwn wybod dy ffyrdd.
15Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu,
a pha fantais sydd inni os gweddïwn arno?’
16“Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant?
Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw21:16 Felly Groeg. Hebraeg, wrthyf..
17“Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol,
ac y daw eu dinistr arnynt hwy,
ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?
18A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt,
neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?
19A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant?
Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng.
20Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr,
ac yfed o lid yr Hollalluog.
21Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei ôl,
pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod?
22“A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw?
Onid ef sy'n barnu'r beilchion?
23“Bydd un farw yn ei lwyddiant,
mewn llonyddwch a thawelwch,
24ei lwynau yn llawn braster,
a mêr ei esgyrn yn iraidd.
25Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd,
heb brofi daioni.
26Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd,
a'r pryfed yn amdo drostynt.
27“Yn awr gwn eich meddyliau,
a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;
28oherwydd dywedwch, ‘Ble'r aeth tŷ'r pendefig?
a phle mae trigfannau'r annuwiol?’
29Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd?
Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,
30yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr,
ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?
31Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb?
Pwy a dâl yn ôl iddo am yr hyn a wnaeth?
32Pan ddygir ef i'r bedd,
cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod.
33Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno;
bydd gorymdaith yn dilyn ar ei ôl,
a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen.
34Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi?
Nid oes ond twyll yn eich atebion.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004