No themes applied yet
1Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:
2“Cyn wired â bod Duw yn fyw, a droes o'r neilltu fy achos,
a'r Hollalluog, a wnaeth fy einioes yn chwerw,
3tra bydd anadl ynof,
ac ysbryd Duw yn fy ffroenau,
4ni chaiff fy ngenau lefaru twyll,
na'm tafod ddweud celwydd!
5Pell y bo imi ddweud eich bod chwi'n iawn!
Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.
6Daliaf yn ddiysgog at fy nghyfiawnder,
ac nid yw fy nghalon yn fy ngheryddu am fy muchedd.
7“Bydded fy ngelyn fel y drygionus,
a'm gwrthwynebwr fel y twyllodrus.
8Oherwydd pa obaith sydd i'r annuwiol pan dorrir ef i lawr,
a phan gymer Duw ei einioes oddi arno?
9A wrendy Duw ar ei gri
pan ddaw gofid iddo?
10A yw ef yn ymhyfrydu yn yr Hollalluog?
A eilw ef ar Dduw yn gyson?
11Dysgaf chwi am allu Duw,
ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog.
12Yn wir yr ydych chwi i gyd wedi ei weld eich hunain;
pam, felly, yr ydych mor gwbl ynfyd?
13“Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw,
ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:
14os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan,
ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.
15Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla,
ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.
16Er iddo bentyrru arian fel llwch
a darparu dillad fel clai,
17er iddo ef eu darparu, fe'u gwisgir gan y cyfiawn,
a'r diniwed a ranna'r arian.
18Y mae'n adeiladu ei dŷ fel y pryf copyn,
ac fel y bwth a wna'r gwyliwr.
19Pan â i gysgu, y mae ganddo gyfoeth,
ond ni all ei gadw;
pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim.
20Daw ofnau drosto fel llifogydd,
a chipia'r storm ef ymaith yn y nos.
21Cipia gwynt y dwyrain ef, a diflanna;
fe'i hysguba o'i le.
22Hyrddia arno'n ddidrugaredd,
er iddo ymdrechu i ffoi o'i afael.
23Cura'i ddwylo arno,
a'i hysio o'i le.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004