No themes applied yet
Cwynfan Job
1Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni. 2Meddai Job:
3“Difoder y dydd y'm ganwyd,
a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’.
4Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch;
na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod,
ac na lewyrched goleuni arno.
5Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu;
arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.
6Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno;
na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn,
ac na ddoed i blith nifer y misoedd.
7Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth,
heb sŵn gorfoledd ynddi.
8Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau,
y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan.
9Tywylled sêr ei chyfddydd,
disgwylied am oleuni heb ei gael,
ac na weled doriad gwawr,
10am na chaeodd ddrysau croth fy mam,
na chuddio gofid o'm golwg.
11Pam na fûm farw yn y groth,
neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru?
12Pam y derbyniodd gliniau fi,
ac y rhoddodd bronnau sugn i mi?
13Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd,
yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys,
14gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear,
a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain,
15neu gyda thywysogion goludog,
a lanwodd eu tai ag arian,
16neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd,
fel babanod na welsant oleuni.
17Yno, peidia'r drygionus â therfysgu,
a chaiff y lluddedig orffwys.
18Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch;
ni chlywant lais y meistri gwaith.
19Bychan a mawr sydd yno,
a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr.
20Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymedig
a bywyd i'r chwerw ei ysbryd,
21sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod,
sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd,
22sy'n llawenychu pan gaiff feddrod,
ac yn gorfoleddu pan gaiff fedd?
23“Ond am ddyn, cuddiwyd ei ffordd,
a chaeodd Duw amdano.
24Daw fy ochenaid o flaen fy mwyd,
a thywelltir fy ngriddfan fel dyfroedd.
25Y peth a ofnaf a ddaw arnaf,
a'r hyn yr arswydaf rhagddo a ddaw imi.
26Nid oes imi dawelwch na llonyddwch;
ni chaf orffwys, canys daw dychryn.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004