No themes applied yet
Araith Elihu
32:1—37:24
1Peidiodd y tri gŵr â dadlau rhagor â Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw. 2Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw, 3a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio. 4Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hŷn nag ef. 5Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gŵr ateb i Job. 6Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad:
“Dyn ifanc wyf fi,
a chwithau'n hen;
am hyn yr oeddwn yn ymatal,
ac yn swil i ddweud fy marn wrthych.
7Dywedais, ‘Caiff profiad maith siarad,
ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.’
8Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun,
ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus.
9Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth,
ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.
10Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf;
gad i minnau ddweud fy marn.’
11“Bûm yn disgwyl am eich geiriau,
ac yn gwrando am eich deallusrwydd;
tra oeddech yn dewis eich geiriau,
12sylwais yn fanwl arnoch,
ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job,
nac ateb ei ddadleuon.
13Peidiwch â dweud, ‘Fe gawsom ni ddoethineb’;
Duw ac nid dyn a'i trecha.
14Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon;
ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.
15“Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach;
pallodd geiriau ganddynt.
16A oedaf fi am na lefarant hwy,
ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb?
17Gwnaf finnau fy rhan trwy ateb,
a dywedaf fy marn.
18Yr wyf yn llawn o eiriau,
ac ysbryd ynof sy'n fy nghymell.
19O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan,
a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo.
20Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod,
rhaid i mi agor fy ngenau i ateb.
21Ni ddangosaf ffafr at neb,
ac ni wenieithiaf i neb;
22oherwydd ni wn i sut i wenieithio;
pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004