No themes applied yet
1“Ond yn awr, Job, gwrando arnaf,
a chlustfeinia ar fy ngeiriau i gyd.
2Dyma fi'n agor fy ngwefusau,
a'm tafod yn llefaru yn fy ngenau.
3Y mae fy ngeiriau'n mynegi fy meddwl yn onest,
a'm gwefusau wybodaeth yn ddiffuant.
4Ysbryd Duw a'm lluniodd,
ac anadl yr Hollalluog a'm ceidw'n fyw.
5Ateb fi, os medri;
trefna dy achos, a saf o'm blaen.
6Ystyria, o flaen Duw yr wyf finnau yr un fath â thithau;
o glai y'm lluniwyd innau hefyd.
7Ni ddylai arswyd rhagof fi dy barlysu;
ni fyddaf yn llawdrwm arnat.
8“Yn wir, dywedaist yn fy nghlyw,
a chlywais innau dy eiriau'n glir:
9‘Rwy'n lân, heb drosedd;
rwy'n bur heb gamwedd.
10Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn,
ac yn f'ystyried yn elyn iddo,
11yn gosod fy nhraed mewn cyffion,
ac yn gwylio fy holl ffyrdd.’
12“Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti:
Y mae Duw yn fwy na meidrolyn.
13Pam yr wyt yn ymgecru ag ef,
oherwydd nid oes ateb i'r un o'i eiriau?
14Mae Duw yn llefaru unwaith ac eilwaith,
ond nid oes neb yn cymryd sylw.
15Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos,
pan ddaw trymgwsg ar bobl,
pan gysgant yn eu gwelyau,
16yna fe wna iddynt wrando,
a'u dychryn â rhybuddion,
17i droi rhywun oddi wrth ei weithred,
a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,
18a gwaredu ei einioes rhag y pwll,
a'i fywyd rhag croesi afon angau.
19“Fe'i disgyblir ar ei orwedd
â chryndod di-baid yn ei esgyrn;
20y mae bwyd yn ffiaidd ganddo,
ac nid oes arno chwant am damaid blasus;
21nycha'i gnawd o flaen fy llygad,
a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg;
22y mae ei einioes ar ymyl y pwll,
a'i fywyd ger mangre'r meirw.
23Os oes angel i sefyll drosto—
un o blith mil i gyfryngu
ac i ddadlau ei hawl drosto,
24a thrugarhau wrtho gan ddweud,
‘Achub ef rhag mynd i'r pwll;
y mae pris ei ryddid gennyf fi’—
25yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed,
wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid.
26Bydd yn gweddïo ar Dduw, ac yntau'n ei wrando;
bydd yn edrych ar ei wyneb mewn llawenydd,
gan ddweud wrth eraill am ei gyfiawnhad
27a chanu yn eu gŵydd, a dweud,
‘Pechais, gan droi oddi wrth uniondeb,
ond ni chyfrifwyd hyn yn f'erbyn;
28gwaredodd f'einioes rhag mynd i'r pwll,
ac fe wêl fy mywyd oleuni.’
29“Gwna Duw hyn i gyd i feidrolyn
ddwywaith, ie deirgwaith;
30fe adfer ei einioes o'r pwll,
er mwyn iddo gael gweld goleuni bywyd.
31Ystyria, Job, a gwrando arnaf;
bydd dawel ac mi lefaraf.
32Os oes gennyt ddadl, ateb fi;
llefara, oherwydd fy nymuniad yw dy gyfiawnhau.
33Ond os nad oes gennyt ddim i'w ddweud, gwrando arnaf;
bydd dawel, a dysgaf ddoethineb i ti.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004