No themes applied yet
Anghrediniaeth Brodyr Iesu
1Ar ôl hyn bu Iesu'n teithio o amgylch yng Ngalilea. Ni fynnai fynd o amgylch yn Jwdea, oherwydd yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano i'w ladd. 2Yr oedd gŵyl yr Iddewon, gŵyl y Pebyll, yn ymyl, 3ac felly dywedodd ei frodyr wrtho, “Dylit adael y lle hwn a mynd i Jwdea, er mwyn i'th ddisgyblion hefyd weld y gweithredoedd yr wyt ti'n eu gwneud. 4Oherwydd nid yw neb sy'n ceisio bod yn yr amlwg yn gwneud dim yn y dirgel. Os wyt yn gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i'r byd.” 5Nid oedd hyd yn oed ei frodyr yn credu ynddo. 6Felly dyma Iesu'n dweud wrthynt, “Nid yw'r amser yn aeddfed i mi eto, ond i chwi y mae unrhyw amser yn addas. 7Ni all y byd eich casáu chwi, ond y mae'n fy nghasáu i am fy mod i'n tystio amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg. 8Ewch chwi i fyny i'r ŵyl. Nid wyf fi'n mynd7:8 Yn ôl darlleniad arall, Nid wyf fi eto'n mynd. i fyny i'r ŵyl hon, oherwydd nid yw fy amser i wedi dod i'w gyflawniad eto.” 9Wedi dweud hyn fe arhosodd ef yng Ngalilea.
Iesu yng Ngŵyl y Pebyll
10Ond pan oedd ei frodyr wedi mynd i fyny i'r ŵyl, fe aeth yntau hefyd i fyny, nid yn agored ond yn ddirgel, fel petai. 11Yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano yn yr ŵyl ac yn dweud, “Ble mae ef?” 12Yr oedd llawer o sibrwd amdano ymhlith y tyrfaoedd: rhai yn dweud, “Dyn da yw ef”, ond “Na,” meddai eraill, “twyllo'r bobl y mae.” 13Er hynny, nid oedd neb yn siarad yn agored amdano, rhag ofn yr Iddewon.
14Pan oedd yr ŵyl eisoes ar ei hanner, aeth Iesu i fyny i'r deml a dechrau dysgu. 15Yr oedd yr Iddewon yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut y mae gan hwn y fath ddysg, ac yntau heb gael hyfforddiant?” 16Atebodd Iesu hwy, “Nid eiddof fi yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu, ond eiddo'r hwn a'm hanfonodd i. 17Pwy bynnag sy'n ewyllysio gwneud ei ewyllys ef, caiff wybod a yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, ai ynteu siarad ohonof fy hunan yr wyf. 18Y mae'r sawl sy'n siarad ohono'i hun yn ceisio anrhydedd iddo'i hun; ond y mae'r sawl sy'n ceisio anrhydedd i'r hwn a'i hanfonodd yn ddiffuant ac yn ddiddichell. 19Onid yw Moses wedi rhoi'r Gyfraith i chwi? Ac eto nid oes neb ohonoch yn cadw'r Gyfraith. Pam yr ydych yn ceisio fy lladd i?” 20Atebodd y dyrfa, “Y mae cythraul ynot. Pwy sy'n ceisio dy ladd di?” 21Meddai Iesu wrthynt, “Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o'r herwydd. 22Rhoddodd Moses i chwi ddefod enwaediad—er nad gyda Moses y cychwynnodd ond gyda'r patriarchiaid—ac yr ydych yn enwaedu ar blentyn ar y Saboth. 23Os enwaedir ar blentyn ar y Saboth rhag torri Cyfraith Moses, a ydych yn ddig wrthyf fi am imi iacháu holl gorff rhywun ar y Saboth? 24Peidiwch â barnu yn ôl yr olwg, ond yn ôl safonau barn gyfiawn.”
Ai Hwn yw'r Meseia?
25Yna dechreuodd rhai o drigolion Jerwsalem ddweud, “Onid hwn yw'r dyn y maent yn ceisio ei ladd? 26A dyma fe'n siarad yn agored heb i neb ddweud dim yn ei erbyn. Tybed a yw'r llywodraethwyr wedi dod i wybod i sicrwydd mai hwn yw'r Meseia? 27Ac eto, fe wyddom ni o ble y mae'r dyn yma'n dod; ond pan ddaw'r Meseia, ni bydd neb yn gwybod o ble y mae'n dod.” 28Ar hynny, cyhoeddodd Iesu'n uchel, wrth ddysgu yn y deml, “Yr ydych yn f'adnabod i ac yn gwybod o ble rwy'n dod. Ond nid wyf wedi dod ohonof fy hun. Y mae'r hwn a'm hanfonodd i â'i hanfod yn wirionedd, ond nid ydych chwi'n ei adnabod ef. 29Yr wyf fi'n ei adnabod ef, oherwydd oddi wrtho ef y deuthum, ac ef a'm hanfonodd.” 30Am hynny ceisiasant ei ddal, ond ni osododd neb law arno, oherwydd nid oedd ei awr ef wedi dod eto. 31Credodd llawer o blith y dyrfa ynddo, ac meddent, “A fydd y Meseia, pan ddaw, yn gwneud mwy o arwyddion nag a wnaeth y dyn hwn?”
Anfon Swyddogion i Ddal Iesu
32Clywodd y Phariseaid y dyrfa'n sibrwd y pethau hyn amdano. Ac fe anfonodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid swyddogion i'w ddal ef. 33Felly dywedodd Iesu, “Am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi, ac yna af at yr hwn a'm hanfonodd i. 34Fe chwiliwch amdanaf fi, ond ni chewch hyd imi; lle yr wyf fi ni allwch chwi ddod.” 35Meddai'r Iddewon wrth ei gilydd, “I ble mae hwn ar fynd, fel na bydd i ni gael hyd iddo? A yw ar fynd, tybed, at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid, a dysgu'r Groegiaid? 36Beth yw ystyr y gair hwn a ddywedodd, ‘Fe chwiliwch amdanaf fi, ond ni chewch hyd i mi; lle yr wyf fi, ni allwch chwi ddod’?”
Ffrydiau o Ddŵr Bywiol
37Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. 38Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi,7:38 Neu, deued ataf fi, ac yfed y sawl sy'n credu ynof fi. Allan ohono. fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.” 39Sôn yr oedd am yr Ysbryd yr oedd y rhai a gredodd ynddo ef yn mynd i'w dderbyn. Oherwydd nid oedd yr Ysbryd ganddynt eto, am nad oedd Iesu wedi cael ei ogoneddu eto.
Ymraniad ymhlith y Dyrfa
40Ar ôl ei glywed yn dweud hyn, meddai rhai o blith y dyrfa, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd.” 41Meddai eraill, “Hwn yw'r Meseia.” Ond meddai rhai, “Does bosibl mai o Galilea y mae'r Meseia yn dod? 42Onid yw'r Ysgrythur yn dweud mai o linach Dafydd ac o Fethlehem, y pentref lle'r oedd Dafydd yn byw, y daw'r Meseia?” 43Felly bu ymraniad ymhlith y dyrfa o'i achos ef. 44Yr oedd rhai ohonynt yn awyddus i'w ddal, ond ni osododd neb ddwylo arno.
Anghrediniaeth y Llywodraethwyr
45Daeth y swyddogion yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheini iddynt, “Pam na ddaethoch ag ef yma?” 46Atebodd y swyddogion, “Ni lefarodd neb erioed fel hyn.” 47Yna dywedodd y Phariseaid, “A ydych chwithau hefyd wedi eich twyllo? 48A oes unrhyw un o'r llywodraethwyr wedi credu ynddo, neu o'r Phariseaid? 49Ond y dyrfa yma nad yw'n gwybod dim am y Gyfraith, dan felltith y maent.” 50Yr oedd Nicodemus, y dyn oedd wedi dod ato o'r blaen, yn un ohonynt; meddai ef wrthynt, 51“A yw ein Cyfraith ni yn barnu rhywun heb roi gwrandawiad iddo yn gyntaf, a chael gwybod beth y mae'n ei wneud?” 52Atebasant ef, “A wyt tithau hefyd yn dod o Galilea? Chwilia'r Ysgrythurau, a chei weld nad yw proffwyd byth yn codi o Galilea.”7:52 Yn ôl y llawysgrifau hynaf, dilynir hyn gan 8:12, ond ychwanega llawysgrifau eraill adnodau 7:53—8:11, a argreffir yma mewn llythrennau italaidd.
Y Wraig oedd wedi ei Dal mewn Godineb
53Ac aethant adref bob un. 54Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd. 55 Yn y bore bach daeth eto i'r deml, ac yr oedd y bobl i gyd yn dod ato. Wedi iddo eistedd a dechrau eu dysgu, 56 dyma'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn dod â gwraig ato oedd wedi ei dal mewn godineb, a'i rhoi i sefyll yn y canol. 57 “Athro,” meddent wrtho, “y mae'r wraig hon wedi ei dal yn y weithred o odinebu. 58 Gorchmynnodd Moses yn y Gyfraith i ni labyddio gwragedd o'r fath. Beth sydd gennyt ti i'w ddweud?” 59 Dweud hyn yr oeddent er mwyn rhoi prawf arno, a chael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. Plygodd Iesu i lawr ac ysgrifennu ar y llawr â'i fys. 60 Ond gan eu bod yn dal ati i ofyn y cwestiwn iddo, ymsythodd ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag ohonoch sy'n ddibechod, gadewch i hwnnw fod yn gyntaf i daflu carreg ati.” 61 Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar y llawr. 62 A dechreuodd y rhai oedd wedi clywed fynd allan, un ar ôl y llall, y rhai hynaf yn gyntaf, nes i Iesu gael ei adael ar ei ben ei hun, a'r wraig yno yn y canol. 63 Ymsythodd Iesu a gofyn iddi, “Wraig, ble maent? Onid oes neb wedi dy gondemnio?” 64 Meddai hithau, “Neb, syr.” Ac meddai Iesu, “Nid wyf finnau'n dy gondemnio chwaith. Dos, ac o hyn allan paid â phechu mwyach.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004