No themes applied yet
Iacháu Dyn Dall o'i Enedigaeth
1Wrth fynd ar ei daith, gwelodd Iesu ddyn dall o'i enedigaeth. 2Gofynnodd ei ddisgyblion iddo, “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni'n ddall?” 3Atebodd Iesu, “Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef. 4Y mae'n rhaid i ni9:4 Yn ôl darlleniad arall, i mi. gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio. 5Tra byddaf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.” 6Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn â'r clai, 7ac meddai wrtho, “Dos i ymolchi ym mhwll Siloam” (enw a gyfieithir Anfonedig). Aeth y dyn yno ac ymolchi, a phan ddaeth yn ôl yr oedd yn gweld. 8Dyma'i gymdogion, felly, a'r bobl oedd wedi arfer o'r blaen ei weld fel cardotyn, yn dweud, “Onid hwn yw'r dyn fyddai'n eistedd i gardota?” 9Meddai rhai, “Hwn yw ef.” “Na,” meddai eraill, “ond y mae'n debyg iddo.” Ac meddai'r dyn ei hun, “Myfi yw ef.” 10Gofynasant iddo felly, “Sut yr agorwyd dy lygaid di?” 11Atebodd yntau, “Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai ac iro fy llygaid a dweud wrthyf, ‘Dos i Siloam i ymolchi.’ Ac wedi imi fynd yno ac ymolchi, cefais fy ngolwg.” 12Gofynasant iddo, “Ble mae ef?” “Ni wn i,” meddai yntau.
Y Phariseaid yn Archwilio'r Iachâd
13Aethant â'r dyn oedd wedi bod gynt yn ddall at y Phariseaid. 14Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw pan wnaeth Iesu glai ac agor llygaid y dyn. 15A dyma'r Phariseaid yn gofyn iddo eto sut yr oedd wedi cael ei olwg. Ac meddai wrthynt, “Rhoddodd glai ar fy llygaid ac ymolchais, a dyma fi'n gweld.” 16Felly dywedodd rhai o'r Phariseaid, “Nid yw'r dyn hwn o Dduw; nid yw'n cadw'r Saboth.” Ond meddai eraill, “Sut y gall dyn sy'n bechadur wneud y fath arwyddion?” Ac yr oedd ymraniad yn eu plith, 17a dyma hwy'n gofyn eto i'r dyn dall, “Beth sydd gennyt ti i'w ddweud amdano ef, gan iddo agor dy lygaid di?” Atebodd yntau, “Proffwyd yw ef.”
18Gwrthododd yr Iddewon gredu amdano iddo fod yn ddall a derbyn ei olwg, nes iddynt alw rhieni'r dyn 19a'u holi hwy: “Ai hwn yw eich mab chwi? A ydych chwi'n dweud ei fod wedi ei eni'n ddall? Sut felly y mae'n gweld yn awr?” 20Atebodd ei rieni, “Fe wyddom mai hwn yw ein mab a'i fod wedi ei eni'n ddall. 21Ond ni wyddom sut y mae'n gweld yn awr, ac ni wyddom pwy a agorodd ei lygaid. Gofynnwch iddo ef. Y mae'n ddigon hen. Caiff ateb drosto'i hun.” 22Atebodd ei rieni fel hyn am fod arnynt ofn yr Iddewon, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno bod unrhyw un a fyddai'n cyffesu Iesu fel Meseia i gael ei dorri allan o'r synagog. 23Dyna pam y dywedodd ei rieni, “Y mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo ef.”
24Yna galwasant atynt am yr ail waith y dyn a fu'n ddall, ac meddent wrtho, “Dywed y gwir gerbron Duw. Fe wyddom ni mai pechadur yw'r dyn hwn.” 25Atebodd yntau, “Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld.” 26Meddent wrtho, “Beth wnaeth ef iti? Sut yr agorodd ef dy lygaid di?” 27Atebodd hwy, “Rwyf wedi dweud wrthych eisoes, ond nid ydych wedi gwrando. Pam yr ydych mor awyddus i glywed y peth eto? Does bosibl eich bod chwi hefyd yn awyddus i fod yn ddisgyblion iddo?” 28Ar hyn, dyma hwy'n ei ddifrïo ac yn dweud wrtho, “Ti sy'n ddisgybl i'r dyn. Disgyblion Moses ydym ni. 29Fe wyddom fod Duw wedi llefaru wrth Moses, ond am y dyn hwn, ni wyddom o ble y mae wedi dod.” 30Atebodd y dyn hwy, “Y peth rhyfedd yw hyn, na wyddoch chwi o ble y mae wedi dod, ac eto fe agorodd ef fy llygaid i. 31Fe wyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond ei fod yn gwrando ar unrhyw un sy'n dduwiol ac yn gwneud ei ewyllys ef. 32Ni chlywyd erioed fod neb wedi agor llygaid rhywun oedd wedi ei eni'n ddall. 33Oni bai fod y dyn hwn o Dduw, ni allai wneud dim.” 34Atebodd y Phariseaid ef, “Fe'th aned di yn gyfan gwbl mewn pechod, ac a wyt ti yn ein dysgu ni?” Yna taflasant ef allan.
Dallineb Ysbrydol
35Clywodd Iesu eu bod wedi ei daflu allan, a phan gafodd hyd iddo gofynnodd iddo, “A wyt ti'n credu ym Mab y Dyn9:35 Yn ôl darlleniad arall, Mab Duw.?” 36Atebodd yntau, “Pwy yw ef, syr, er mwyn imi gredu ynddo?” 37Meddai Iesu wrtho, “Yr wyt wedi ei weld ef. Yr un sy'n siarad â thi, hwnnw yw ef.” 38“Yr wyf yn credu, Arglwydd,” meddai'r dyn, gan ymgrymu o'i flaen. 39A dywedodd Iesu, “I farnu y deuthum i i'r byd hwn, er mwyn i'r rhai nad ydynt yn gweld gael gweld, ac i'r rhai sydd yn gweld fynd yn ddall.”
40Clywodd rhai o'r Phariseaid oedd yno gydag ef hyn, ac meddent wrtho, “A ydym ni hefyd yn ddall?” 41Atebodd Iesu hwy: “Pe baech yn ddall, ni byddai gennych bechod. Ond am eich bod yn awr yn dweud, ‘Yr ydym yn gweld’, y mae eich pechod yn aros.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004