No themes applied yet
Rhandir Gweddill Llwyth Manasse
1Yna rhoddwyd rhandir i lwyth Manasse, oherwydd ef oedd cyntafanedig Joseff. Machir oedd cyntafanedig Manasse a thad Gilead, ac am ei fod yn rhyfelwr, iddo ef y daeth Gilead a Basan. 2Rhannwyd tir hefyd i weddill Manasse yn ôl eu tylwythau, sef i feibion Abieser, Helech, Asriel, Sichem, Heffer a Semida. Y rhain oedd bechgyn Manasse fab Joseff yn ôl eu tylwythau. 3Ond am Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, nid oedd ganddo feibion ond merched yn unig, a dyma'u henwau: Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa. 4Daeth y rhain gerbron yr offeiriad Eleasar, Josua fab Nun a'r arweinwyr, a dweud, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses roi inni etifeddiaeth ymysg ein pobl.” Ac fe roddwyd iddynt etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD. 5Felly disgynnodd deg rhan i Manasse, yn ychwanegol at dir Gilead a Basan y tu hwnt i'r Iorddonen, 6am fod merched Manasse wedi etifeddu cyfran ynghyd â'r meibion; aeth tir Gilead i weddill meibion Manasse.
7Yr oedd terfyn Manasse'n ymestyn o Aser i Michmetha, sydd i'r dwyrain o Sichem, ac ymlaen i'r de at Jasub ger En-tappua17:7 Felly Groeg. Hebraeg, at drigolion En-tappua.. 8Perthyn i Manasse yr oedd tir Tappua, ond yr oedd Tappua ei hun ar derfyn Manasse ac yn perthyn i blant Effraim. 9Âi'r terfyn i lawr nant Cana i'r de. Trefi yn perthyn i Effraim oedd y rhai ar ochr ddeheuol y nant, er eu bod yng nghanol trefi Manasse, a bod terfyn Manasse yn rhedeg ar ochr ogleddol y nant nes cyrraedd y môr. 10Yr oedd y tir i'r de'n perthyn i Effraim, ond y tir i'r gogledd yn perthyn i Manasse. Yr oedd tir Manasse'n ymestyn at y môr, ac yn ffinio ar Aser i'r gogledd ac ar Issachar i'r dwyrain. 11O fewn Issachar ac Aser, eiddo Manasse oedd Beth-sean ac Ibleam a'u maestrefi, a hefyd y rhai oedd yn byw yn Dor, Endor, Taanach a Megido a'u maestrefi. Naffath yw'r drydedd dref uchod. 12Ni allodd Manasse feddiannu'r trefi hyn; felly daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad. 13Ond wedi i'r Israeliaid ymgryfhau, rhoesant y Canaaneaid dan lafur gorfod, er iddynt fethu eu disodli'n llwyr.
Disgynyddion Joseff yn Chwennych Rhagor o Dir
14Dywedodd disgynyddion Joseff wrth Josua, “Pam na roddaist inni ond un gyfran ac un rhandir yn etifeddiaeth, a ninnau'n bobl niferus, ac wedi'n bendithio mor helaeth gan yr ARGLWYDD?” 15Atebodd Josua hwy, “Os ydych yn bobl mor niferus, a mynydd-dir Effraim yn rhy gyfyng i chwi, ewch i fyny i'r goedwig a chlirio tir ichwi'ch hunain yno, yn nhiriogaeth y Peresiaid a'r Reffaim.” 16Dywedodd disgynyddion Joseff, “Nid yw'r mynydd-dir yn ddigon inni, ac y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sy'n byw ar y gwastatir yn Beth-sean a'i maestrefi, ac yn nyffryn Jesreel.” 17Yna dywedodd Josua wrth Effraim a Manasse, teulu Joseff, “Yr ydych yn bobl niferus, ac yn nerthol iawn; nid un gyfran yn unig a gewch, 18ond bydd y mynydd-dir hefyd yn eiddo ichwi; ac er mai coetir yw, cliriwch ef a'i feddiannu i'w gwr pellaf; yna byddwch yn disodli'r Canaaneaid, er eu bod yn gryfion a cherbydau heyrn ganddynt.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004