No themes applied yet
Buddugoliaeth Derfynol dros Midian
1Dywedodd gwŷr Effraim wrtho, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni, drwy beidio â'n galw pan aethost i ymladd yn erbyn Midian?” A buont yn dadlau'n chwyrn ag ef. 2Ond dywedodd ef wrthynt, “Yn awr, beth a wneuthum i o'i gymharu â'r hyn a wnaethoch chwi? Onid yw lloffion Effraim yn well na chynhaeaf Abieser? 3Yn eich dwylo chwi y rhoddodd Duw Oreb a Seeb, arweinwyr Midian. Beth a fedrais i ei wneud o'i gymharu â'r hyn a wnaethoch chwi?” Wedi iddo ddweud hyn, fe dawelodd eu dig tuag ato.
4Aeth Gideon tua'r Iorddonen a'i chroesi gyda'r tri chant, yn lluddedig ond yn para i erlid. 5Dywedodd wrth bobl Succoth, “Os gwelwch yn dda, rhowch dipyn o fara i'r fyddin sy'n fy nilyn, oherwydd maent yn lluddedig, ac yr wyf finnau'n erlid ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian.” 6Ond dywedodd arweinwyr Succoth, “A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th fintai?” 7Ac meddai Gideon, “Am hynny, pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi Seba a Salmunna yn fy llaw, fe ffustiaf eich cyrff â drain a mieri'r anialwch.” 8Wedyn aeth oddi yno i Penuel, a gofyn yr un fath iddynt hwy; ac atebodd pobl Penuel ef yn yr un modd â phobl Succoth. 9Felly dywedodd wrth bobl Penuel, “Pan ddof yn ôl yn llwyddiannus, fe dynnaf i lawr y tŵr hwn.”
10Yr oedd Seba a Salmunna wedi cyrraedd Carcor, ac yr oedd eu byddin gyda hwy, tua phymtheng mil, sef pawb a adawyd o fyddin y dwyreinwyr, oherwydd yr oedd cant ac ugain o filoedd o wŷr arfog wedi syrthio. 11Aeth Gideon ar hyd llwybr y preswylwyr pebyll, o'r tu dwyrain i Noba a Jogbeha, a tharo'r fyddin yn annisgwyl. 12Ffodd Seba a Salmunna, ond aeth Gideon ar eu hôl, a dal dau frenin Midian a gwasgaru'r holl fyddin mewn braw.
13Fel yr oedd Gideon fab Joas yn dychwelyd o'r frwydr heibio i allt Heres, 14daliodd un o fechgyn Succoth; wedi iddo'i holi, ysgrifennodd hwnnw iddo restr yn cynnwys saith deg a saith o arweinwyr a henuriaid Succoth. 15Pan ddaeth at bobl Succoth, dywedodd, “Dyma Seba a Salmunna, y buoch yn eu dannod imi, gan ofyn, ‘A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th ddynion lluddedig?’ ” 16Yna cymerodd henuriaid y dref, a dysgodd wers i bobl Succoth â drain a mieri'r anialwch. 17Tynnodd i lawr dŵr Penuel, a lladdodd bobl y dref.
18Pan holodd ef Seba a Salmunna, “Sut rai oedd y dynion a laddasoch yn Tabor?”, eu hateb oedd: “Yr oedd pob un ohonynt yr un ffunud â thi, yn edrych fel plant brenin.” 19Ac meddai Gideon, “Fy mrodyr i oeddent, meibion fy mam. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, pe byddech wedi eu harbed, ni fyddwn yn eich lladd.” 20Yna dywedodd wrth Jether ei gyntafanedig, “Dos, lladd hwy.” Ond ni thynnodd y llanc ei gleddyf oherwydd yr oedd arno ofn, gan nad oedd ond llanc. 21Yna dywedodd Seba a Salmunna, “Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth.” Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.
22Yna dywedodd yr Israeliaid wrth Gideon, “Llywodraetha di arnom, ti a'th fab a mab dy fab, am iti ein gwaredu o law Midian.” 23Dywedodd Gideon wrthynt, “Nid myfi na'm mab fydd yn llywodraethu arnoch; yr ARGLWYDD fydd yn llywodraethu arnoch.” 24Yna meddai Gideon, “Gadewch imi ofyn un peth gennych, sef bod pob un yn rhoi imi glustlws o'i ysbail.” Yr oedd ganddynt glustlysau aur am mai Ismaeliaid oeddent. 25Dywedasant hwythau, “Fe'u rhown â chroeso.” Ac wedi iddynt daenu clogyn, taflodd pob un arno glustlws a gafodd yn ysbail. 26Yr oedd y clustlysau aur y gofynnodd amdanynt yn pwyso mil a saith gant o siclau aur, heb gyfrif y tlysau a'r torchau a'r gwisgoedd porffor oedd gan frenhinoedd Midian, a'r coleri oedd am yddfau'r camelod. 27Gwnaeth Gideon effod ohonynt a'i osod yn ei dref ei hun, Offra. Aeth Israel gyfan i buteinio ar ei ôl yno, a bu'n dramgwydd i Gideon ac i'w deulu.
28Felly cafodd Midian ei darostwng gan yr Israeliaid, fel na allai godi ei phen rhagor; a chafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd yn nyddiau Gideon. 29Aeth Jerwbbaal fab Joas yn ôl i fyw gartref. 30Yr oedd gan Gideon ddeg a thrigain o feibion; ei blant ei hun oeddent, oherwydd yr oedd llawer o wragedd ganddo. 31Hefyd cafodd fab o'i ordderch oedd yn Sichem, ac enwodd ef Abimelech.
Marwolaeth Gideon
32Bu farw Gideon fab Joas mewn gwth o oedran, a chladdwyd ef ym medd ei dad Joas yn Offra'r Abiesriaid. 33Wedi marw Gideon aeth yr Israeliaid unwaith eto i buteinio ar ôl y Baalim, a chymryd Baal-berith yn dduw iddynt. 34Ni chofiodd yr Israeliaid yr ARGLWYDD eu Duw, a'u gwaredodd o afael yr holl elynion o'u hamgylch, 35na dangos teyrngarwch i deulu Jerwbbaal, sef Gideon, am yr holl ddaioni a wnaeth i Israel.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004