No themes applied yet
Puro Gwraig ar ôl Genedigaeth
1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud, 2“Dywed wrth bobl Israel, ‘Bydd gwraig sy'n beichiogi ac yn geni mab yn aflan am saith diwrnod, yn union fel y mae'n aflan yn nyddiau ei misglwyf. 3Ar yr wythfed dydd enwaeder ar y bachgen. 4Yna bydd y wraig yn disgwyl tri ar ddeg ar hugain o ddyddiau am buro ei gwaed; nid yw i gyffwrdd â dim sanctaidd nac i fynd i'r cysegr nes y bydd dyddiau'r puro trosodd. 5Os bydd yn geni merch, yna bydd yn aflan am bythefnos, fel y mae yn ei misglwyf; bydd yn disgwyl chwech a thrigain o ddyddiau am buro ei gwaed.
6“ ‘Pan fydd dyddiau'r puro am fab neu ferch trosodd, y mae i ddod at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod gydag oen gwryw yn boethoffrwm a chyw colomen neu durtur yn aberth dros bechod. 7Bydd yntau'n eu cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD i wneud cymod drosti, ac yna bydd yn lân oddi wrth ei gwaedlif. Dyma'r ddeddf ynglŷn â gwraig yn geni mab neu ferch.
8“ ‘Os na all fforddio oen, gall ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn boethoffrwm a'r llall yn aberth dros bechod; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn lân.’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004