No themes applied yet
Y Flwyddyn Sabothol
1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai, 2“Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan ewch i mewn i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, y mae'r wlad i gadw Saboth i'r ARGLWYDD. 3Am chwe blynedd byddwch yn hau eich meysydd, ac am chwe blynedd yn tocio eich gwinllannoedd ac yn casglu eu ffrwyth; 4ond ar y seithfed flwyddyn bydd y wlad yn cael Saboth o orffwys, sef Saboth i'r ARGLWYDD, ac nid ydych i hau eich meysydd nac i docio eich gwinllannoedd. 5Nid ydych ychwaith i fedi'r cynhaeaf a dyfodd ohono'i hun, nac i gasglu grawnwin oddi ar winwydd heb eu tocio; y mae'r wlad i gael blwyddyn o orffwys. 6Ond bydd unrhyw beth a gynhyrcha'r ddaear yn ystod y flwyddyn o Saboth yn fwyd i ti dy hun, ac i'th was a'th forwyn, dy was cyflog a'r estron sy'n byw gyda thi, 7a hefyd i'th anifail ac i'r bwystfil gwyllt fydd ar dy dir; bydd yr holl gynnyrch yn ymborth.
8“ ‘Cyfrif saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; bydd saith Saboth o flynyddoedd yn naw a deugain o flynyddoedd. 9Yna ar y degfed dydd o'r seithfed mis pâr ganu'r utgorn ym mhob man; ar Ddydd y Cymod pâr ganu'r utgorn trwy dy holl wlad. 10Cysegra'r hanner canfed flwyddyn, a chyhoedda ryddid trwy'r wlad i'r holl drigolion; bydd hon yn flwyddyn jwbili ichwi, a bydd pob un ohonoch yn dychwelyd i'w dreftadaeth ac at ei dylwyth. 11Bydd yr hanner canfed flwyddyn yn flwyddyn jwbili ichwi; peidiwch â hau, na medi'r hyn a dyfodd ohono'i hun, na chasglu oddi ar winwydd heb eu tocio. 12Jwbili ydyw, ac y mae i fod yn sanctaidd ichwi; ond cewch fwyta'r cynnyrch a ddaw o'r tir.
13“ ‘Yn y flwyddyn jwbili hon y mae pob un ohonoch i ddychwelyd i'w dreftadaeth. 14Felly, pan fyddwch yn gwerthu neu'n prynu tir ymysg eich gilydd, peidiwch â chymryd mantais ar eich gilydd. 15Yr ydych i brynu oddi wrth eich gilydd yn ôl nifer y blynyddoedd oddi ar y jwbili, ac i werthu i'ch gilydd yn ôl nifer y blynyddoedd sydd ar gyfer cynnyrch. 16Pan fydd y blynyddoedd yn niferus, yr ydych i godi'r pris, ond pan fydd y blynyddoedd yn ychydig, yr ydych i'w ostwng, oherwydd yr hyn a werthir yw nifer y cnydau. 17Peidiwch â chymryd mantais ar eich gilydd, ond ofnwch eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw. 18Ufuddhewch i'm deddfau, a chadwch fy ngorchmynion a'u gwneud, a chewch fyw'n ddiogel yn y wlad. 19Bydd y wlad yn rhoi ei ffrwyth, a chewch fwyta i'ch digoni a byw yno'n ddiogel. 20Os gofynnwch, “Beth a fwytawn yn y seithfed flwyddyn, gan na fyddwn yn hau nac yn medi ein cynhaeaf?” 21fe drefnaf y fath fendith ar eich cyfer yn y chweched flwyddyn fel y rhoddir digon o gynnyrch ichwi am dair blynedd. 22Pan fyddwch yn hau yn yr wythfed flwyddyn, byddwch yn bwyta o'r hen gnwd, ac yn parhau i fwyta ohono nes y daw cnwd yn y nawfed flwyddyn.
23“ ‘Ni ellir gwerthu tir yn barhaol, oherwydd eiddof fi yw'r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi. 24Trwy holl wlad eich treftadaeth, byddwch barod i ryddhau tir a werthwyd. 25Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn gwerthu rhan o'i dreftadaeth, caiff ei berthynas agosaf ddod a rhyddhau'r hyn a werthodd. 26Os bydd heb berthynas i'w ryddhau, ac yntau wedyn yn llwyddo ac yn ennill digon i'w ryddhau, 27y mae i gyfrif y blynyddoedd er pan werthodd ef, ac ad-dalu am hynny i'r gwerthwr, ac yna caiff ddychwelyd i'w dreftadaeth. 28Os na fydd wedi ennill digon i ad-dalu iddo, bydd yr hyn a werthodd yn eiddo i'r prynwr hyd flwyddyn y jwbili; fe'i dychwelir ym mlwyddyn y jwbili a chaiff y gwerthwr ddychwelyd i'w dreftadaeth.
29“ ‘Os bydd rhywun yn gwerthu tŷ annedd mewn dinas gaerog, caiff ei ryddhau o fewn blwyddyn lawn ar ôl ei werthu; o fewn yr amser hwnnw caiff ei ryddhau. 30Os na fydd wedi ei ryddhau cyn diwedd y flwyddyn lawn, bydd y tŷ yn y ddinas gaerog yn eiddo parhaol i'r sawl a'i prynodd ac i'w ddisgynyddion; nid yw i'w ddychwelyd ym mlwyddyn y jwbili. 31Ond y mae tai mewn trefi heb furiau o'u hamgylch i'w hystyried fel rhai yng nghefn gwlad; fe ellir eu rhyddhau, ac y maent i'w dychwelyd ym mlwyddyn y jwbili. 32Bydd gan y Lefiaid hawl parhaol i ryddhau tai eu treftadaeth yn y dinasoedd sy'n perthyn iddynt. 33Gellir rhyddhau eiddo yn perthyn i'r Lefiaid, ac y mae tŷ a werthwyd yn un o ddinasoedd eu treftadaeth i'w ddychwelyd ym mlwyddyn y jwbili; y mae'r tai yn ninasoedd y Lefiaid yn dreftadaeth iddynt ymysg pobl Israel. 34Ond ni cheir gwerthu'r tir pori o amgylch eu trefi, oherwydd y mae'n dreftadaeth barhaol iddynt.
35“ ‘Os bydd un ohonoch yn dlawd a heb fedru ei gynnal ei hun yn eich plith, cynorthwya ef, fel y gwnait i estron neu ymsefydlydd gyda thi, er mwyn iddo fyw yn eich mysg. 36Paid â chymryd llog nac elw oddi wrtho, ond ofna dy Dduw, er mwyn iddo barhau i fyw yn eich mysg. 37Nid wyt i fenthyca arian iddo ar log nac i werthu bwyd iddo am elw. 38Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft i roi iti wlad Canaan, ac i fod yn Dduw iti.
39“ ‘Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn ei werthu ei hun iti, paid â'i orfodi i weithio iti fel caethwas. 40Y mae i fod fel gwas cyflog neu ymsefydlydd gyda thi, ac i weithio gyda thi hyd flwyddyn y jwbili. 41Yna y mae ef a'i deulu i'w rhyddhau, a bydd yn dychwelyd at ei lwyth ei hun ac i dreftadaeth ei hynafiaid. 42Gan mai gweision i mi yw pobl Israel, a ddygais allan o wlad yr Aifft, ni ellir eu gwerthu yn gaethweision. 43Paid â thra-awdurdodi drostynt, ond ofna dy Dduw. 44Bydd dy gaethweision, yn wryw a benyw, o blith y cenhedloedd o'th amgylch; o'u plith hwy gelli brynu caethweision. 45Cei hefyd brynu rhai o blith yr estroniaid sydd wedi ymsefydlu yn eich plith, a'r rhai o'u tylwyth sydd wedi eu geni yn eich gwlad, a byddant yn eiddo ichwi. 46Gallwch hefyd eu gadael i'ch plant ar eich ôl, iddynt eu cymryd yn etifeddiaeth ac i fod yn gaethweision parhaol iddynt; ond nid ydych i dra-awdurdodi dros eich cyd-Israeliaid.
47“ ‘Os bydd estron neu ymsefydlydd gyda thi yn dod yn gyfoethog, ac un o'ch plith yn mynd yn dlawd ac yn ei werthu ei hun i'r estron sydd wedi ymsefydlu gyda thi, neu i un o dylwyth yr estron, 48bydd ganddo'r hawl i gael ei ryddhau ar ôl ei werthu; gall un o'i deulu ei ryddhau. 49Gall ewythr neu nai neu unrhyw berthynas arall yn y llwyth ei ryddhau; neu os caiff lwyddiant, gall ei ryddhau ei hun. 50Y mae ef a'i brynwr i gyfrif o'r flwyddyn y gwerthodd ei hun at flwyddyn y jwbili; bydd arian ei bryniant yn unol â'r hyn a delir i was cyflog dros y nifer hwn o flynyddoedd. 51Os oes llawer o flynyddoedd ar ôl, rhaid iddo dalu am ei ryddhau gyfran uchel o'r arian a roddwyd amdano; 52ond os ychydig sydd ar ôl hyd flwyddyn y jwbili, y mae i wneud y cyfrif ac i dalu yn ôl hynny am ei ryddhau. 53Y mae i'w ystyried fel un wedi ei gyflogi'n flynyddol; nid ydych i adael i'w berchennog dra-awdurdodi drosto. 54Hyd yn oed os na fydd wedi ei ryddhau trwy un o'r ffyrdd hyn, caiff ef a'i blant eu rhyddhau ym mlwyddyn y jwbili; 55oherwydd gweision i mi yw pobl Israel, gweision a ddygais allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004