No themes applied yet
Addunedau i'r ARGLWYDD
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Llefara wrth bobl Israel a dweud wrthynt, ‘Os bydd rhywun yn gwneud adduned arbennig i roi cyfwerth am berson i'r ARGLWYDD, 3bydd gwerth gwryw rhwng ugain a thrigain mlwydd oed yn hanner can sicl o arian, yn ôl sicl y cysegr. 4Os benyw ydyw, bydd ei gwerth yn ddeg sicl ar hugain. 5Os rhywun rhwng pump ac ugain mlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn ugain sicl, a benyw yn ddeg sicl. 6Os plentyn rhwng mis a phumlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn bum sicl o arian a benyw yn dair sicl o arian. 7Os rhywun trigain mlwydd oed neu drosodd ydyw, bydd gwerth gwryw yn bymtheg sicl a benyw yn ddeg sicl. 8Os bydd unrhyw un yn rhy dlawd i dalu'r gwerth, y mae i ddod â'r person at yr offeiriad, a bydd yntau'n pennu ei werth yn ôl yr hyn y gall y sawl sy'n addunedu ei fforddio; yr offeiriad fydd yn pennu'r gwerth.
9“ ‘Os anifail sy'n dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD yw'r adduned, bydd y cyfan o'r anifail yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. 10Nid yw i'w gyfnewid, na rhoi un da am un gwael nac un gwael am un da; os bydd yn cyfnewid un anifail am un arall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd. 11Os yw'r anifail yn un aflan, a heb fod yn dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD, y mae i ddod â'r anifail at yr offeiriad, 12a bydd yntau yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; beth bynnag a benna'r offeiriad, hynny fydd ei werth. 13Os bydd y perchennog yn dymuno rhyddhau'r anifail, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth.
14“ ‘Os bydd rhywun yn cysegru ei dŷ yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; y gwerth a rydd yr offeiriad arno fydd yn sefyll. 15Os bydd rhywun sy'n cysegru ei dŷ am ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd y tŷ'n eiddo iddo.
16“ ‘Os bydd rhywun am gysegru i'r ARGLWYDD ran o dir ei etifeddiaeth, mesurir ei werth yn ôl yr had ar ei gyfer, sef hanner can sicl o arian ar gyfer pob homer o haidd. 17Os bydd yn cysegru'r tir yn ystod blwyddyn y jwbili, bydd ei werth yn sefyll. 18Ond os bydd yn ei gysegru ar ôl y jwbili, bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei bris yn ôl y blynyddoedd sy'n weddill hyd y jwbili nesaf, a bydd ei werth yn gostwng. 19Os bydd y sawl sy'n cysegru ei dir yn dymuno ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd yn eiddo iddo. 20Os na fydd yn dymuno rhyddhau'r tir, neu os bydd wedi ei werthu i rywun arall, ni ellir byth ei ryddhau. 21Pan ryddheir y tir ar y jwbili, bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, fel tir diofryd27:21 Peth wedi ei neilltuo i Dduw trwy ei ddinistrio.; bydd yn etifeddiaeth i'r offeiriad.
22“ ‘Os bydd dyn yn cysegru i'r ARGLWYDD dir a brynodd, a heb fod yn rhan o'i etifeddiaeth, 23bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei werth hyd flwyddyn y jwbili, a bydd y sawl sy'n ei gysegru yn rhoi ei werth y diwrnod hwnnw, a bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. 24Ym mlwyddyn y jwbili dychwelir y tir i'r sawl y prynwyd ef ganddo, sef yr un yr oedd y tir yn rhan o'i etifeddiaeth. 25Y mae pob gwerth i'w bennu yn ôl sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
26“ ‘Er hynny, nid yw neb i gysegru cyntafanedig anifail sydd eisoes yn gyntafanedig i'r ARGLWYDD; boed fuwch neu ddafad, eiddo'r ARGLWYDD ydyw. 27Os un o'r anifeiliaid aflan ydyw, caiff ei brynu am ei werth, ac ychwanegu pumed ran ato; os na ryddheir ef, y mae i'w werthu am ei werth. 28Er hynny, ni ellir gwerthu na rhyddhau unrhyw eiddo, boed ddyn, anifail, neu dir sy'n etifeddiaeth, os yw wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD; y mae unrhyw ddiofryd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. 29Ni ellir rhyddhau neb sydd wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD, ond rhaid iddo farw.
30“ ‘Y mae degwm unrhyw gynnyrch o'r tir, boed yn rawn o'r tir neu'n ffrwyth o'r coed, yn eiddo i'r ARGLWYDD. 31Os bydd rhywun yn rhyddhau rhywfaint o'r degwm, y mae i ychwanegu pumed ran ato. 32Y mae holl ddegwm gyr neu ddiadell, sef y degfed anifail sy'n croesi o dan y ffon, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. 33Ni ddylid dewis rhwng da a drwg, na chyfnewid; ond os newidir un yn lle'r llall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd, ac ni ellir eu rhyddhau.’ ”
34Dyma'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel ar Fynydd Sinai.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004