No themes applied yet
Achosion yn gofyn Aberth dros Bechod
1“ ‘Os bydd unrhyw un yn pechu oherwydd iddo, ar ôl clywed cyhuddiad cyhoeddus, beidio â dweud dim, er ei fod yn dyst a'i fod wedi gweld, neu'n gwybod, bydd yn gyfrifol am ei drosedd. 2Neu os bydd unrhyw un yn cyffwrdd ag unrhyw beth aflan, boed yn gorff bwystfil aflan, neu anifail aflan, neu ymlusgiad aflan, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, y mae'n aflan ac yn euog. 3Neu os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw aflendid dynol, sef unrhyw beth a fydd yn ei wneud yn aflan, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog. 4Neu os bydd rhywun yn tyngu llw yn ddifeddwl, boed i wneud drwg neu dda, mewn unrhyw beth y byddai rhywun yn tyngu llw difeddwl ynglŷn ag ef, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog o un o'r pethau hyn. 5Pan fydd rhywun yn euog o un o'r pethau hyn, dylai gyffesu ym mha fodd y pechodd, 6ac yn iawn am y pechod a wnaeth y mae i ddod ag aberth dros bechod i'r ARGLWYDD, sef oen benyw neu afr o'r praidd; a bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am ei bechod.
7“ ‘Os na all fforddio oen, dylai ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen i'r ARGLWYDD yn iawn am ei bechod, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm. 8Y mae i ddod â hwy at yr offeiriad, a bydd yntau yn cyflwyno un yn aberth dros bechod, ac yn torri'r pen oddi wrth y corff heb eu gwahanu'n llwyr. 9Yna bydd yn taenellu peth o waed yr aberth dros bechod ar ochr yr allor, ac yn gwasgu allan y gweddill wrth droed yr allor. Dyma fydd yr aberth dros bechod. 10Bydd yn cyflwyno'r ail yn boethoffrwm yn y dull arferol. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.
11“ ‘Ond os na all fforddio dwy durtur neu ddau gyw colomen, dylai ddod â rhodd o ddegfed ran o effa o beilliaid yn aberth dros ei bechod; nid yw i roi olew na thus arno, am mai offrwm dros bechod ydyw. 12Y mae i ddod ag ef at yr offeiriad, a bydd yntau'n cymryd dyrnaid ohono yn gyfran goffa, ac yn ei losgi ar yr allor ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr aberth dros bechod. 13Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth ynglŷn ag un o'r pethau hyn, ac fe faddeuir iddo. Bydd y gweddill yn eiddo i'r offeiriad, fel gyda'r bwydoffrwm.’ ”
Offrwm dros Gamwedd
14Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 15“Pan fydd unrhyw un yn gwneud camwedd ac yn pechu'n anfwriadol ynglŷn â phethau sanctaidd yr ARGLWYDD, dylai ddod â hwrdd o'r praidd yn iawn i'r ARGLWYDD, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol mewn siclau o arian, yn ôl sicl y cysegr; dyma fydd yr offrwm dros gamwedd. 16Y mae i dalu am y pechod a wnaeth ynglŷn â'r pethau sanctaidd, ac i ychwanegu pumed ran ato a'i roi i'r offeiriad; yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto gyda hwrdd yn offrwm dros gamwedd, ac fe faddeuir iddo.
17“Os bydd unrhyw un yn pechu ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, er nad yw'n ymwybodol o hynny, y mae'n euog ac yn gyfrifol am ei drosedd. 18Dylai ddod â hwrdd o'r praidd at yr offeiriad yn offrwm dros gamwedd, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol. Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y trosedd a gyflawnodd yn anfwriadol, ac fe faddeuir iddo. 19Dyma fydd yr offrwm dros gamwedd, oherwydd iddo wneud camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004