No themes applied yet
Cyflwyniad i Theoffilus
1Yn gymaint â bod llawer wedi ymgymryd ag ysgrifennu hanes y pethau a gyflawnwyd yn ein plith, 2fel y traddodwyd hwy inni gan y rhai a fu o'r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weision y gair, 3penderfynais innau, gan fy mod wedi ymchwilio yn fanwl i bopeth o'r dechreuad, eu hysgrifennu i ti yn eu trefn, ardderchocaf Theoffilus, 4er mwyn iti gael sicrwydd am y wybodaeth a dderbyniaist.
Rhagfynegi Genedigaeth Ioan Fedyddiwr
5Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o'r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth. 6Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau'r Arglwydd. 7Nid oedd ganddynt blant, oherwydd yr oedd Elisabeth yn ddiffrwyth, ac yr oeddent ill dau wedi cyrraedd oedran mawr. 8Ond pan oedd Sachareias a'i adran, yn eu tro, yn gweinyddu fel offeiriaid gerbron Duw, 9yn ôl arferiad y swydd, daeth i'w ran fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd ac offrymu'r arogldarth; 10ac ar awr yr offrymu yr oedd holl dyrfa'r bobl y tu allan yn gweddïo. 11A dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo, yn sefyll ar yr ochr dde i allor yr arogldarth; 12a phan welodd Sachareias ef, fe'i cythryblwyd a daeth ofn arno. 13Ond dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sachareias, oherwydd y mae dy ddeisyfiad wedi ei wrando; bydd dy wraig Elisabeth yn esgor ar fab i ti, a gelwi ef Ioan. 14Fe gei lawenydd a gorfoledd, a bydd llawer yn llawenychu o achos ei enedigaeth ef; 15oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef â'r Ysbryd Glân, ie, yng nghroth ei fam, 16ac fe dry lawer o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. 17Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau rhieni at eu plant, ac i droi'r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i'r Arglwydd bobl wedi eu paratoi.” 18Meddai Sachareias wrth yr angel, “Sut y caf sicrwydd o hyn? Oherwydd yr wyf fi yn hen, a'm gwraig wedi cyrraedd oedran mawr.” 19Atebodd yr angel ef, “Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn; 20ac wele, byddi'n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol.”
21Yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias, ac yn synnu ei fod yn oedi yn y cysegr. 22A phan ddaeth allan, ni allai lefaru wrthynt, a deallasant iddo gael gweledigaeth yn y cysegr; yr oedd yntau yn amneidio arnynt ac yn parhau yn fud. 23Pan ddaeth dyddiau ei wasanaeth i ben, dychwelodd adref. 24Ond wedi'r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe'i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud, 25“Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.”
Rhagfynegi Genedigaeth Iesu
26Yn y chweched mis anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i dref yng Ngalilea o'r enw Nasareth, 27at wyryf oedd wedi ei dyweddïo i ŵr o'r enw Joseff, o dŷ Dafydd; Mair oedd enw'r wyryf. 28Aeth yr angel ati a dweud, “Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi.” 29Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod. 30Meddai'r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; 31ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu. 32Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, 33ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.” 34Meddai Mair wrth yr angel, “Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?” 35Atebodd yr angel hi, “Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw. 36Ac wele, y mae Elisabeth dy berthynas hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint, a dyma'r chweched mis i'r hon a elwir yn ddiffrwyth; 37oherwydd ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw.” 38Dywedodd Mair, “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” Ac aeth yr angel i ffwrdd oddi wrthi.
Mair yn Ymweld ag Elisabeth
39Ar hynny cychwynnodd Mair ac aeth ar frys i'r mynydd-dir, i un o drefi Jwda; 40aeth i dŷ Sachareias a chyfarch Elisabeth. 41Pan glywodd hi gyfarchiad Mair, llamodd y plentyn yn ei chroth a llanwyd Elisabeth â'r Ysbryd Glân; 42a llefodd â llais uchel, “Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth. 43Sut y daeth i'm rhan i fod mam fy Arglwydd yn dod ataf? 44Pan glywais dy lais yn fy nghyfarch, dyma'r plentyn yn fy nghroth yn llamu o orfoledd. 45Gwyn ei byd yr hon a gredodd y cyflawnid yr hyn a lefarwyd wrthi gan yr Arglwydd.”
Emyn Mawl Mair
46Ac meddai Mair:
“Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,
47a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr,
48am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.
Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,
49oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi,
a sanctaidd yw ei enw ef;
50y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaeth
i'r rhai sydd yn ei ofni ef.
51Gwnaeth rymuster â'i fraich,
gwasgarodd y rhai balch eu calon;
52tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,
a dyrchafodd y rhai distadl;
53llwythodd y newynog â rhoddion,
ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.
54Cynorthwyodd ef Israel ei was,
gan ddwyn i'w gof ei drugaredd—
55fel y llefarodd wrth ein hynafiaid—
ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd.”
56Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, ac yna dychwelodd adref.
Genedigaeth Ioan Fedyddiwr
57Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab. 58Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi. 59A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias. 60Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.” 61Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.” 62Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi. 63Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb. 64Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw. 65Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd; 66a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef.
Proffwydoliaeth Sachareias
67Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn:
68“Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel
am iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid;
69cododd waredigaeth gadarn i ni
yn nhŷ Dafydd ei was—
70fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu—
71gwaredigaeth rhag ein gelynion ac o afael pawb sydd yn ein casáu;
72fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid,
a chofio ei gyfamod sanctaidd,
73y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad,
y rhoddai inni 74gael ein hachub o afael gelynion,
a'i addoli yn ddiofn 75mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder
ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.
76A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf,
oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau,
77i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaeth
trwy faddeuant eu pechodau.
78Hyn yw trugaredd calon ein Duw—
fe ddaw1:78 Yn ôl darlleniad arall, fe ddaeth. â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith,
79i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau,
a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.”
80Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004