No themes applied yet
Yr Ymdaith Fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem
Mth. 21:1–11; Lc. 19:28–40; In. 12:12–19
1Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem, at Bethffage a Bethania, ger Mynydd yr Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion, 2ac meddai wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth wrth ichwi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. 3Ac os dywed rhywun wrthych, ‘Pam yr ydych yn gwneud hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr ei angen, a bydd yn ei anfon yn ôl yma yn union deg.’ ” 4Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef. 5Ac meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, “Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?” 6Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd. 7Daethant â'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn. 8Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd. 9Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:
“Hosanna!
Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.
10Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd;
Hosanna yn y goruchaf!”
11Aeth i mewn i Jerwsalem ac i'r deml, ac wedi edrych o'i gwmpas ar bopeth, gan ei bod eisoes yn hwyr, aeth allan i Fethania gyda'r Deuddeg.
Melltithio'r Ffigysbren
Mth. 21:18–19
12Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno. 13A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a gâi rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys. 14Dywedodd wrtho, “Peidied neb â bwyta ffrwyth ohonot ti byth mwy!” Ac yr oedd ei ddisgyblion yn gwrando.
Glanhau'r Deml
Mth. 21:12–17; Lc. 19:45–48; In. 2:13–22
15Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod, 16ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml. 17A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw'n ysgrifenedig:
“ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd,
ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?”
18Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth. 19A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.
Gwers y Ffigysbren Crin
Mth. 21:20–22
20Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd. 21Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.” 22Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych11:22 Yn ôl darlleniad arall, Os oes gennych. ffydd yn Nuw; 23yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo. 24Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi. 25A phan fyddwch ar eich traed yn gweddïo, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i'ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau.11:25 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 26 Ond os na faddeuwch chwi, ni faddeua chwaith eich Tad sydd yn y nefoedd eich camweddau chwi.”
Amau Awdurdod Iesu
Mth. 21:23–27; Lc. 20:1–8
27Daethant drachefn i Jerwsalem. Ac wrth ei fod yn cerdded yn y deml, dyma'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid yn dod ato, 28ac meddent wrtho, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?” 29Dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ofynnaf un peth i chwi; atebwch fi, ac fe ddywedaf wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn. 30Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol? Atebwch fi.” 31Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’ 32Eithr a ddywedwn, ‘O'r byd daearol’?”—yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd mewn gwirionedd. 33Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004