No themes applied yet
Atgyfodiad Iesu
Mth. 28:1–8; Lc. 24:1–12; In. 20:1–10
1Wedi i'r Saboth fynd heibio, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau, er mwyn mynd i'w eneinio ef. 2Ac yn fore iawn ar y dydd cyntaf o'r wythnos, a'r haul newydd godi, dyma hwy'n dod at y bedd. 3Ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy a dreigla'r maen i ffwrdd oddi wrth ddrws y bedd i ni?” 4Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn. 5Aethant i mewn i'r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt. 6Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef. 7Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. ‘Y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’ ” 8Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt.16:8 Dyma ddiwedd Efengyl Marc yn ôl darlleniad rhai o'r llawysgrifau hynaf, ond ychwanega llawysgrifau eraill adnodau 9–20, a argreffir yma mewn llythrennau italaidd.
Ymddangos i Fair Magdalen
Mth. 28:9–10; In. 20:11–18
9Ar ôl atgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Fair Magdalen, gwraig yr oedd wedi bwrw saith gythraul ohoni. 10Aeth hi a dweud y newydd wrth ei ganlynwyr yn eu galar a'u dagrau. 11A'r rheini, pan glywsant ei fod yn fyw ac wedi ei weld ganddi hi, ni chredasant.
Ymddangos i Ddau Ddisgybl
Lc. 24:13–35
12Ar ôl hynny, ymddangosodd mewn ffurf arall i ddau ohonynt fel yr oeddent yn cerdded ar eu ffordd i'r wlad; 13ac aethant hwy ymaith a dweud y newydd wrth y lleill. Ond ni chredodd neb y rheini chwaith.
Rhoi Comisiwn i'r Disgyblion
Mth. 28:16–20; Lc. 24:36–49; In. 20:19–23; Act. 1:6–8
14Yn ddiweddarach, ymddangosodd i'r un ar ddeg pan oeddent wrth bryd bwyd, ac edliw iddynt eu hanghrediniaeth a'u hystyfnigrwydd, am iddynt beidio â chredu y rhai oedd wedi ei weld ef ar ôl ei gyfodi. 15A dywedodd wrthynt, “Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd. 16Y sawl a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond y sawl ni chred, fe'i condemnir. 17A bydd yr arwyddion hyn yn dilyn i'r sawl a gredodd: bwriant allan gythreuliaid yn fy enw i, llefarant â thafodau newydd, 18gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt; rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant.”
Esgyniad Iesu
Lc. 24:50–53; Act. 1:9–11
19Felly, wedi iddo lefaru wrthynt, cymerwyd yr Arglwydd Iesu i fyny i'r nef ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw. 20Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio â hwy ac yn cadarnhau'r gair trwy'r arwyddion oedd yn dilyn. 16:20 Yn lle, neu'n ychwanegol at, adn. 9–20, rhydd rhai llawysgrifau y diweddglo a ganlyn: Adroddasant yn gryno y cwbl a orchmynnwyd iddynt wrth Pedr a'r rhai oedd gydag ef. Wedi hynny, anfonodd Iesu ei hunan allan trwyddynt hwy, o'r dwyrain hyd at y gorllewin, genadwri sanctaidd ac anllygradwy iachawdwriaeth dragwyddol. Amen.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004