No themes applied yet
Traddodiad yr Hynafiaid
Mth. 15:1–20
1Ymgasglodd y Phariseaid ato, a rhai ysgrifenyddion oedd wedi dod o Jerwsalem. 2A gwelsant fod rhai o'i ddisgyblion ef yn bwyta'u bwyd â dwylo halogedig, hynny yw, heb eu golchi. 3(Oherwydd nid yw'r Phariseaid, na neb o'r Iddewon, yn bwyta heb olchi eu dwylo hyd yr arddwrn7:3 Yn llythrennol, â'r dwrn. Ystyr yn ansicr. Yn ôl darlleniad arall, yn fynych., gan lynu wrth draddodiad yr hynafiaid; 4ac ni fyddant byth yn bwyta, ar ôl dod o'r farchnad, heb ymolchi; ac y mae llawer o bethau eraill a etifeddwyd ganddynt i'w cadw, megis golchi cwpanau ac ystenau a llestri pres7:4 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir a gwelyau..) 5Gofynnodd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion iddo, “Pam nad yw dy ddisgyblion di'n dilyn traddodiad yr hynafiaid, ond yn bwyta'u bwyd â dwylo halogedig?” 6Dywedodd yntau wrthynt, “Da y proffwydodd Eseia amdanoch chwi ragrithwyr, fel y mae'n ysgrifenedig:
“ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau,
ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
7yn ofer y maent yn fy addoli,
gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’
8“Yr ydych yn anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynol.” 9Meddai hefyd wrthynt, “Rhai da ydych chwi am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain. 10Oherwydd dywedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a, ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’ 11Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Corban (hynny yw, Offrwm i Dduw) yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”,’ 12ni adewch iddo mwyach wneud dim i'w dad neu i'w fam. 13Yr ydych yn dirymu gair Duw trwy'r traddodiad a drosglwyddir gennych. Ac yr ydych yn gwneud llawer o bethau cyffelyb i hynny.”
14Galwodd y dyrfa ato drachefn ac meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf bawb, a deallwch. 15Nid oes dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan iddo yn gallu ei halogi; ond y pethau sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi.”7:15 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 16 Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed. 17Ac wedi iddo fynd i'r tŷ oddi wrth y dyrfa, dechreuodd ei ddisgyblion ei holi am y ddameg. 18Meddai yntau wrthynt, “A ydych chwithau hefyd yr un mor ddiddeall? Oni welwch na all dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan ei halogi, 19oherwydd nid yw'n mynd i'w galon ond i'w gylla, ac yna y mae'n mynd allan i'r geudy?” Felly y cyhoeddodd ef yr holl fwydydd yn lân. 20Ac meddai, “Yr hyn sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi. 21Oherwydd o'r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, 22godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd; 23o'r tu mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun.”
Ffydd y Wraig o Syrophenicia
Mth. 15:21–28
24Cychwynnodd oddi yno ac aeth ymaith i gyffiniau Tyrus. Aeth i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni lwyddodd i ymguddio. 25Ar unwaith clywodd gwraig amdano, gwraig yr oedd gan ei merch fach ysbryd aflan, a daeth a syrthiodd wrth ei draed ef. 26Groeges oedd y wraig, Syropheniciad o genedl; ac yr oedd yn gofyn iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch. 27Meddai yntau wrthi, “Gad i'r plant gael digon yn gyntaf; nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.” 28Atebodd hithau ef, “Syr, y mae hyd yn oed y cŵn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.” 29“Am iti ddweud hynny,” ebe yntau, “dos adref; y mae'r cythraul wedi mynd allan o'th ferch.” 30Aeth hithau adref a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a'r cythraul wedi mynd ymaith.
Iacháu Dyn Mud a Byddar
31Dychwelodd drachefn o gyffiniau Tyrus, a daeth drwy Sidon at Fôr Galilea trwy ganol bro'r Decapolis. 32Dygasant ato ddyn byddar oedd prin yn gallu siarad, a cheisio ganddo roi ei law arno. 33Cymerodd yntau ef o'r neilltu oddi wrth y dyrfa ar ei ben ei hun; rhoes ei fysedd yn ei glustiau, poerodd, a chyffyrddodd â'i dafod; 34a chan edrych i fyny i'r nef ochneidiodd a dweud wrtho, “Ephphatha”, hynny yw, “Agorer di”. 35Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod a dechreuodd lefaru'n eglur. 36A gorchmynnodd iddynt beidio â dweud wrth neb; ond po fwyaf yr oedd ef yn gorchymyn iddynt, mwyaf yn y byd yr oeddent hwy'n cyhoeddi'r peth. 37Yr oeddent yn synnu'n fawr dros ben, gan ddweud, “Da y gwnaeth ef bob peth; y mae'n gwneud hyd yn oed i fyddariaid glywed ac i fudion lefaru.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004