No themes applied yet
Dameg yr Heuwr
Mc. 4:1–9; Lc. 8:4–8
1Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan o'r tŷ ac eisteddodd ar lan y môr. 2Daeth tyrfaoedd mawr ynghyd ato, nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch, ac yr oedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y lan. 3Fe lefarodd lawer wrthynt ar ddamhegion, gan ddweud: “Aeth heuwr allan i hau. 4Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta. 5Syrthiodd peth arall ar leoedd creigiog, lle na chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear. 6Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. 7Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'u tagu. 8A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain. 9Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.”
Pwrpas y Damhegion
Mc. 4:10–12; Lc. 8:9–10
10Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?” 11Atebodd yntau, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd. 12Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo. 13Am hynny yr wyf yn siarad wrthynt ar ddamhegion; oherwydd er iddynt edrych nid ydynt yn gweld, ac er iddynt wrando nid ydynt yn clywed nac yn deall. 14A chyflawnir ynddynt hwy y broffwydoliaeth gan Eseia sy'n dweud:
“ ‘Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim;
er edrych ac edrych, ni welwch ddim.
15Canys brasawyd calon y bobl yma,
y mae eu clyw yn drwm,
a'u llygaid wedi cau;
rhag iddynt weld â'u llygaid,
a chlywed â'u clustiau,
a deall â'u calon, a throi'n ôl,
i mi eu hiacháu.’
16“Ond gwyn eu byd eich llygaid chwi am eu bod yn gweld, a'ch clustiau chwi am eu bod yn clywed. 17Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a rhai cyfiawn wedi dyheu am weld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
Egluro Dameg yr Heuwr
Mc. 4:13–20; Lc. 8:11–15
18“Gwrandewch chwithau felly ar ddameg yr heuwr. 19Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y deyrnas heb ei ddeall, daw'r Un drwg a chipio'r hyn a heuwyd yn ei galon. Dyma'r un sy'n derbyn yr had ar hyd y llwybr. 20A'r un sy'n derbyn yr had ar leoedd creigiog, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei dderbyn ar ei union yn llawen. 21Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo'i hunan, a thros dro y mae'n para; pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwymp ar unwaith. 22Yr un sy'n derbyn yr had ymhlith y drain, dyma'r un sy'n clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a hudoliaeth golud yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth. 23A'r un sy'n derbyn yr had ar dir da, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth ac yn rhoi peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.”
Dameg yr Efrau ymysg yr Ŷd
24Cyflwynodd Iesu ddameg arall iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i ddyn a heuodd had da yn ei faes. 25Ond pan oedd pawb yn cysgu, daeth ei elyn a hau efrau ymysg yr ŷd a mynd ymaith. 26Pan eginodd y cnwd a dwyn ffrwyth, yna ymddangosodd yr efrau hefyd. 27Daeth gweision gŵr y tŷ a dweud wrtho, ‘Syr, onid had da a heuaist yn dy faes? O ble felly y daeth efrau iddo?’ 28Atebodd yntau, ‘Gelyn a wnaeth hyn.’ Meddai'r gweision wrtho, ‘A wyt am i ni fynd allan a chasglu'r efrau?’ 29‘Na,’ meddai ef, ‘wrth gasglu'r efrau fe allwch ddiwreiddio'r ŷd gyda hwy. 30Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, “Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i'm hysgubor.” ’ ”
Damhegion yr Hedyn Mwstard a'r Lefain
Mc. 4:30–32; Lc. 13:18–21
31A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes. 32Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau.”
33Llefarodd ddameg arall wrthynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”
Arfer Damhegion
Mc. 4:33–34
34Dywedodd Iesu'r holl bethau hyn ar ddamhegion wrth y tyrfaoedd; heb ddameg ni fyddai'n llefaru dim wrthynt, 35fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd:
“Agoraf fy ngenau ar ddamhegion,
traethaf bethau sy'n guddiedig er seiliad y byd.”
Egluro Dameg yr Efrau
36Yna, wedi gollwng y tyrfaoedd, daeth i'r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Eglura i ni ddameg yr efrau yn y maes.” 37Dywedodd yntau, “Yr un sy'n hau'r had da yw Mab y Dyn. 38Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg, 39a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion. 40Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser. 41Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith, 42a byddant yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd. 43Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.
Tair Dameg
44“Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw.
45“Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych. 46Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.
47“Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i rwyd a fwriwyd i'r môr ac a ddaliodd bysgod o bob math. 48Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd. 49Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn, 50ac yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.
Trysorau Newydd a Hen
51“A ydych wedi deall yr holl bethau hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym.” 52“Am hynny,” meddai ef wrthynt, “y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen.”
Gwrthod Iesu yn Nasareth
Mc. 6:1–6; Lc. 4:16–30
53Pan orffennodd Iesu'r damhegion hyn, aeth oddi yno. 54Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, “O ble y cafodd hwn y ddoethineb hon a'r gweithredoedd nerthol hyn? 55Onid mab y saer yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam ef, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yn frodyr iddo? 56Ac onid yw ei chwiorydd i gyd yma gyda ni? O ble felly y cafodd hwn yr holl bethau hyn?” 57Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Dywedodd Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref.” 58Ac ni wnaeth lawer o wyrthiau yno o achos eu hanghrediniaeth.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004