No themes applied yet
Cyhuddo'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid
Mc. 12:38–40; Lc. 11:37–52; 20:45–47
1Yna llefarodd Iesu wrth y tyrfaoedd a'i ddisgyblion. 2Dywedodd: “Y mae'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn eistedd yng nghadair Moses. 3Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch â dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu. 4Y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn23:4 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan ac anodd eu dwyn., ac yn eu gosod ar ysgwyddau pobl, ond nid ydynt hwy eu hunain yn fodlon codi bys i'w symud. 5Cyflawnant eu holl weithredoedd er mwyn cael eu gweld gan eraill. Y maent yn gwneud eu phylacterau'n llydan ac ymylon eu mentyll yn llaes; 6y maent yn hoffi cael y seddau anrhydedd mewn gwleddoedd a'r prif gadeiriau yn y synagogau, 7a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd a'u galw gan bobl yn ‘Rabbi’. 8Ond peidiwch chwi â chymryd eich galw yn ‘Rabbi’, oherwydd un athro sydd gennych, a chymrodyr ydych chwi i gyd. 9A pheidiwch â galw neb yn dad ichwi ar y ddaear, oherwydd un tad sydd gennych chwi, sef eich Tad nefol. 10A pheidiwch â chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia. 11Rhaid i'r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi. 12Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.
13“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cau drws teyrnas nefoedd yn wyneb pobl; nid ydych yn mynd i mewn eich hunain, nac yn gadael i'r rhai sydd am fynd i mewn wneud hynny.23:13 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 14 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; am hynny fe dderbyniwch drymach dedfryd.
15“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cwmpasu môr a thir i wneud un proselyt, ac wedi ei gael fe'i gwnewch yn ddwywaith cymaint o blentyn uffern ag yr ydych chwi.
16“Gwae chwi, arweinwyr dall sy'n dweud, ‘Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r deml, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r aur sydd yn y deml, y mae rhwymedigaeth arno.’ 17Ffyliaid a deillion, p'run sydd fwyaf, yr aur, ynteu'r deml sy'n gwneud yr aur yn gysegredig? 18A thrachefn fe ddywedwch, ‘Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r allor, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r offrwm sydd ar yr allor, y mae rhwymedigaeth arno.’ 19Ddeillion, p'run sydd fwyaf, yr offrwm, ynteu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig? 20Felly y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r allor yn tyngu iddi hi ac i bopeth sydd arni, 21ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r deml yn tyngu iddi hi ac i'r hwn sy'n preswylio ynddi. 22Ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r nef yn tyngu i orsedd Duw ac i'r hwn sy'n eistedd arni.
23“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys ac anis a chwmin, ond gadawsoch heibio bethau trymach y Gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, heb adael heibio'r lleill. 24Arweinwyr dall! Yr ydych yn hidlo'r gwybedyn ac yn llyncu'r camel.
25“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond y tu mewn y maent yn llawn trachwant a hunanfoddhad. 26Y Pharisead dall, glanha'n gyntaf y tu mewn i'r cwpan, fel y bydd y tu allan iddo hefyd yn lân.
27“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn debyg i feddau wedi eu gwyngalchu, sydd o'r tu allan yn ymddangos yn hardd, ond y tu mewn y maent yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid. 28Felly hefyd yn allanol yr ydych chwithau yn ymddangos i bobl yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.
29“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi ac yn addurno beddfeini'r rhai cyfiawn, 30ac yn dweud, ‘Pe baem ni'n byw yn nyddiau ein hynafiaid, ni fyddem wedi ymuno gyda hwy i dywallt gwaed y proffwydi.’ 31Felly yr ydych yn tystio yn eich erbyn eich hunain eich bod yn blant i'r rhai a lofruddiodd y proffwydi. 32Ewch chwithau ymlaen i orffen yr hyn a ddechreuodd eich hynafiaid. 33Chwi seirff ac epil gwiberod, sut y dihangwch rhag barn uffern? 34Am hynny dyma fi'n anfon atoch broffwydi a rhai doeth a rhai dysgedig; byddwch yn lladd ac yn croeshoelio rhai ohonynt, ac yn fflangellu eraill yn eich synagogau, a'u herlid o un dref i'r llall. 35Felly, ar eich pen chwi y bydd yr holl waed diniwed a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd at waed Sechareia fab Beracheia, a lofruddiasoch rhwng y cysegr a'r allor. 36Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ar ben y genhedlaeth hon y bydd yr holl bethau hyn.
Y Galarnad dros Jerwsalem
Lc. 13:34–35
37“Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch. 38Wele, y mae eich tŷ yn cael ei adael yn anghyfannedd. 39Oherwydd rwy'n dweud wrthych, ni chewch fy ngweld o hyn allan hyd y dydd pan ddywedwch, ‘Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004