No themes applied yet
Gwae Ninefe
1Gwae'r ddinas waedlyd,
sy'n dwyll i gyd,
yn llawn anrhaith
a heb derfyn ar ysbail!
2Clec y chwip, trwst olwynion,
meirch yn carlamu a cherbydau'n ysgytian,
3marchogion yn ymosod,
cleddyfau'n disgleirio, gwaywffyn yn fflachio.
Llu o glwyfedigion,
pentyrrau o gyrff,
meirwon dirifedi—
baglant dros y cyrff.
4Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain,
y deg ei phryd, meistres swynion,
a dwyllodd genhedloedd â'i phuteindra,
a phobloedd â'i swynion.
5“Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
“Codaf odre dy wisg at dy wyneb,
a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd,
a'th warth i'r teyrnasoedd.
6Taflaf fudreddi drosot,
gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.
7Yna bydd pob un a'th wêl yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud,
‘Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla â hi?’
O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?”
8A wyt yn well na Thebes,
sydd ar lannau'r Neil,
gyda dŵr o'i hamgylch,
y môr yn fur,
a'r lli yn wrthglawdd iddi?
9Ethiopia oedd ei chadernid,
a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd;
Put a Libya oedd ei chymorth3:9 Felly Groeg. Hebraeg, dy gymorth..
10Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo;
drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol;
bwriwyd coelbren am ei huchelwyr,
a rhwymwyd ei mawrion â chadwynau.
11Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig,
ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn.
12Bydd dy holl amddiffynfeydd fel coed ffigys
gyda'u ffigys cynnar aeddfed;
pan ysgydwir hwy, syrthiant i geg y bwytawr.
13Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol,
y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion,
a thân wedi ysu eu barrau.
14Tyn ddŵr ar gyfer gwarchae,
cryfha dy amddiffynfeydd;
dos at y clai,
sathra'r pridd,
moldia briddfeini.
15Er hynny, cei dy ddifa gan dân,
fe'th dorrir ymaith â'r cleddyf,
ac fe'th ysir fel gan locust.
Lluosoga fel y locust,
lluosoga fel y sbonciwr,
haid sy'n ymledu ac yn hedfan ymaith.
16Y mae dy farsiandïwyr
yn lluosocach na sêr y nefoedd,
17dy dywysogion fel locustiaid,
dy gapteiniaid fel cwmwl o sboncwyr—
ymsefydlant ar y muriau ar ddiwrnod oer,
ond pan gyfyd yr haul ehedant ymaith,
ac ni ŵyr neb ble maent.
18Cysgu y mae dy fugeiliaid, O frenin Asyria,
a'th arweinwyr yn gorffwyso;
gwasgarwyd dy luoedd hyd y mynyddoedd,
heb neb i'w casglu.
19Ni ellir lliniaru dy glwyf;
y mae dy archoll yn ddwfn.
Bydd pob un a glyw'r newydd amdanat
yn curo'i ddwylo o'th blegid.
A oes rhywun nad yw wedi dioddef oddi wrth dy ddrygioni diddiwedd?
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004