No themes applied yet
Ailgodi Mur Jerwsalem
1Yna dechreuodd Eliasib yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid ailgodi Porth y Defaid; gosodasant ei gilbyst a rhoi3:1 Tebygol. Hebraeg, cysegrasant a rhoi. ei ddorau yn eu lle, ac atgyweirio3:1 Tebygol. Hebraeg, a chysegru. hyd at Dŵr y Cant a Thŵr Hananel. 2Adeiladodd gwŷr Jericho yn ei ymyl, a Sacur fab Imri yn eu hymyl hwythau. 3Ailgodwyd Porth y Pysgod gan feibion Hasena; gosodasant ei gilbyst a rhoi ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau. 4Yn eu hymyl hwy yr oedd Meremoth fab Ureia fab Cos yn atgyweirio, ac yn ei ymyl ef Mesulam, fab Berecheia, fab Mesesabel, ac yn ei ymyl yntau yr oedd Sadoc fab Bana yn atgyweirio. 5Y Tecoiaid oedd yn atgyweirio yn eu hymyl hwy, ond nid oedd eu pendefigion yn fodlon gwasanaethu meistriaid. 6Atgyweiriwyd yr Hen Borth gan Joiada fab Pesach a Mesulam fab Besodeia; gosodasant ei drawstiau a rhoi ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau. 7Yn eu hymyl hwy yr oedd Melateia o Gibeon a Jadon o Meronoth, gwŷr Gibeon a Mispa, yn atgyweirio hyd at blas llywodraethwr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates. 8Yn ei ymyl ef yr oedd Usiel fab Harhaia, un o'r gofaint aur, ac yn ei ymyl yntau Hananeia, un o'r apothecariaid; hwy oedd yn trwsio Jerwsalem hyd at y Mur Llydan. 9Yn eu hymyl hwy yr oedd Reffaia fab Hur, rheolwr hanner rhanbarth Jerwsalem. 10Yn ei ymyl ef yr oedd Jedaia fab Harumaff yn atgyweirio o flaen ei dŷ, a Hatus fab Hasabneia yn ei ymyl yntau. 11Yr oedd Malcheia fab Harim a Hasub fab Pahath-moab yn atgyweirio dwy ran a Thŵr y Ffwrneisiau. 12Yn ei ymyl ef yr oedd Salum fab Haloches, pennaeth hanner rhanbarth Jerwsalem, yn atgyweirio gyda'i ferched. 13Atgyweiriwyd Porth y Glyn gan Hanun a thrigolion Sanoach; ailgodasant ef a gosod ei ddorau gyda'r cloeau a'r barrau. 14Hwy hefyd a atgyweiriodd y mur am fil o gufyddau hyd at Borth y Dom. Ond atgyweiriwyd Porth y Dom gan Malacheia fab Rechab, rheolwr rhanbarth Beth-hacerem; fe'i hailgododd a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau. 15Atgyweiriwyd Porth y Ffynnon gan Salum fab Colchose, rheolwr rhanbarth Mispa; fe'i hailgododd a rhoi to arno a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau; cododd fur Pwll Selach wrth ardd y brenin hyd at y grisiau sy'n arwain i lawr o Ddinas Dafydd. 16Ar ei ôl ef atgyweiriodd Nehemeia fab Asbuc, rheolwr hanner rhanbarth Beth-sur, hyd at le gyferbyn â mynwent Dafydd a hyd at Bwll y Gloddfa ac at Dŷ'r Cedyrn. 17Ar ei ôl ef atgyweiriodd y Lefiaid: Rehum fab Bani, ac yn ei ymyl Hasabeia, rheolwr hanner rhanbarth Ceila, yn atgyweirio ei ran ei hun. 18Ar ei ôl ef atgyweiriodd eu brodyr, Bafai fab Henadad, rheolwr ail ranbarth Ceila. 19Yn ei ymyl ef yr oedd Eser fab Jesua, rheolwr Mispa, yn atgyweirio dwy ran gyferbyn â'r allt at dŷ'r arfau, wrth y drofa. 20Ar ei ôl ef atgyweiriodd Baruch fab Sabai3:20 Felly llawysgrifau a Groeg. TM yn ychwanegu yn egnïol. ddwy ran, o'r drofa hyd at ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad. 21Ar ei ôl ef atgyweiriodd Meremoth fab Ureia fab Cos ddwy ran, o ddrws tŷ Eliasib hyd at dalcen ei dŷ. 22Ac ar ei ôl ef atgyweiriodd yr offeiriaid oedd yn byw yn y gymdogaeth. 23Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Benjamin a Hasub gyferbyn â'u tŷ eu hunain. Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Asareia fab Maaseia, fab Ananeia, gyferbyn â'i dŷ ei hun. 24Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Binnui fab Henadad ddwy ran, o dŷ Asareia hyd at y drofa a'r gongl. 25Palal fab Usai oedd yn atgyweirio gyferbyn â'r drofa a'r tŵr sy'n codi o dŷ uchaf y brenin ac yn perthyn i gyntedd y gwarchodlu. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Pedaia fab Paros 26a gweision y deml oedd yn byw yn Offel hyd at le gyferbyn â Phorth y Dŵr i'r dwyrain o'r tŵr uchel. 27Ar eu hôl hwy atgyweiriodd y Tecoiaid ddwy ran gyferbyn â'r tŵr mawr uchel hyd at fur Offel. 28O Borth y Meirch yr offeiriaid oedd yn atgyweirio, pob un gyferbyn â'i dŷ. 29Ar eu hôl hwy atgyweiriodd Sadoc fab Immer gyferbyn â'i dŷ. Ac ar ei ôl ef atgyweiriodd Semaia fab Sechaneia, ceidwad Porth y Dwyrain. 30Ar ei ôl ef atgyweiriodd Hananeia fab Selemeia a Hanun, chweched mab Salaff, ddwy ran. Ar ei ôl yntau atgyweiriodd Mesulam fab Berecheia gyferbyn â'i lety. 31Ar ei ôl ef atgyweiriodd Malcheia, y gof aur, hyd at dŷ'r Nethiniaid a'r marchnatwyr, gyferbyn â Phorth y Cynnull hyd at yr oruwchystafell ar y gongl. 32A rhwng yr oruwchystafell ar y gongl a Phorth y Defaid yr oedd y gofaint aur a'r marchnatwyr yn atgyweirio.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004