No themes applied yet
Cynllwynion yn erbyn Nehemeia
1Pan glywodd Sanbalat a Tobeia a Gesem yr Arabiad a'r gweddill o'n gelynion fy mod wedi ailgodi'r mur ac nad oedd yr un bwlch ar ôl ynddo—er nad oeddwn y pryd hwnnw wedi gosod dorau ar y pyrth— 2fe anfonodd Sanbalat a Gesem ataf a dweud, “Tyrd i'n cyfarfod yn un o'r pentrefi yn nyffryn Ono.” Ond eu bwriad oedd gwneud niwed imi. 3Anfonais negeswyr atynt gyda'r ateb, “Y mae gennyf waith pwysig ar dro, felly ni allaf ddod i lawr. Pam y dylai'r gwaith gael ei atal tra wyf fi yn ei adael ac yn dod i lawr atoch chwi?” 4Anfonasant ataf i'r un perwyl bedair gwaith, a phob tro rhoddais yr un ateb. 5Y pumed tro anfonodd Sanbalat ei was ei hun ataf gyda llythyr agored 6yn cynnwys y neges hon: “Yn ôl Gasmu y mae si ymysg y cenhedloedd dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam yr wyt yn ailgodi'r mur. Dywedir hefyd dy fod ti dy hun am fod yn frenin arnynt, 7a'th fod wedi penodi proffwydi i gyhoeddi yn Jerwsalem a dweud, ‘Y mae brenin yn Jwda.’ Bydd y brenin yn sicr o glywed am hyn; felly tyrd, a gad i ni ymgynghori â'n gilydd.” 8Anfonais air yn ôl ato a dweud, “Nid yw'r hyn a ddywedi di yn wir; ti dy hun sydd wedi ei ddychmygu.” 9Yr oeddent oll yn ceisio'n dychryn, gan dybio y byddem yn digalonni, ac na fyddai'r gwaith yn cael ei orffen. Ond yn awr cryfha fi!
10Pan euthum i dŷ Semaia fab Delaia, fab Mehetabel, oedd wedi ei gaethiwo i'w gartref, dywedodd wrthyf,
“Gad i ni gyfarfod yn nhŷ Dduw,
y tu mewn i'r cysegr,
a chau drysau'r deml,
oherwydd y maent yn dod i'th ladd,
yn dod i'th ladd liw nos.”
11Atebais innau, “A ddylai dyn fel fi ffoi? A yw un fel fi i fynd i mewn i'r deml er mwyn achub ei fywyd? Nid af i mewn.” 12Yna sylweddolais nad Duw oedd wedi ei anfon, ond ei fod wedi proffwydo fel hyn yn ein herbyn am fod Tobeia a Sanbalat wedi ei lwgrwobrwyo. 13Yr oedd wedi cael ei dalu i godi ofn arnaf a pheri imi bechu trwy wneud hyn; yna fe gaent esgus i roi enw drwg imi, a'm gwaradwyddo. 14Fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat am iddynt wneud hyn, a hefyd Noadeia y broffwydes a'r proffwydi eraill oedd am fy nychryn.
Gorffen Adeiladu'r Mur
15Gorffennwyd y mur mewn deuddeg diwrnod a deugain, ar y pumed ar hugain o Elul. 16Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud. 17Yn ystod y cyfnod hwn anfonodd pendefigion Jwda nifer o lythyrau at Tobeia, a daeth llythyrau oddi wrth Tobeia atynt hwythau; 18oherwydd yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef am ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Sechaneia fab Ara, a'i fab Jehohanan wedi priodi merch Mesulam fab Berecheia. 19Byddent yn sôn wrthyf am ei ragoriaethau ac yn ailadrodd fy ngeiriau innau wrtho ef. Ysgrifennodd Tobeia hefyd lythyrau ataf i'm dychryn.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004