No themes applied yet
Tabera
1Yr oedd y bobl yn cwyno am eu caledi yng nghlyw'r ARGLWYDD, a phan glywodd ef hwy, enynnodd ei lid, a llosgodd tân yr ARGLWYDD yn eu plith gan ddifa un cwr o'r gwersyll. 2Galwodd y bobl ar Moses, a phan weddïodd ef ar yr ARGLWYDD, fe ddiffoddodd y tân. 3Galwodd enw'r lle hwnnw yn Tabera11:3 H.y., Llosgi., am i dân yr ARGLWYDD losgi yn eu plith.
Moses yn Dewis yr Arweinwyr
4Dechreuodd y lliaws cymysg oedd yn eu mysg chwantu bwyd, ac wylodd pobl Israel eto, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? 5Yr ydym yn cofio'r pysgod yr oeddem yn eu bwyta yn rhad yn yr Aifft, a'r cucumerau, y melonau, y cennin, y wynwyn a'r garlleg; 6ond yn awr, darfu am ein harchwaeth, ac nid oes dim i'w weld ond manna.”
7Yr oedd y manna fel had coriander, ac o'r un lliw â grawnwin. 8Âi'r bobl o amgylch i'w gasglu, ac wedi iddynt ei falu mewn melinau, ei guro mewn morter, a'i ferwi mewn crochanau, gwnaent deisennau ohono. Yr oedd ei flas fel petai wedi ei bobi ag olew. 9Pan ddisgynnai'r gwlith ar y gwersyll gyda'r nos byddai'r manna yn disgyn hefyd.
10Clywodd Moses y teuluoedd i gyd yn wylo, pob un yn nrws ei babell; enynnodd llid yr ARGLWYDD yn fawr, a bu'n ddrwg gan Moses. 11Yna dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Pam y gwnaethost dro gwael â'th was? Pam na chefais ffafr yn dy olwg, fel dy fod wedi gosod baich yr holl bobl hyn arnaf? 12Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, ‘Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos â hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid’? 13O ble y caf fi gig i'w roi i'r holl bobl hyn? Y maent yn wylo ac yn dweud wrthyf, ‘Rho inni gig i'w fwyta.’ 14Ni allaf gario'r holl bobl hyn fy hunan; y mae'r baich yn rhy drwm imi. 15Os fel hyn yr wyt am wneud â mi, yna lladd fi yn awr, os wyf i gael ffafr yn dy olwg, rhag i mi weld fy nhrueni.”
16Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla i mi ddeg a thrigain o henuriaid Israel, rhai y gwyddost eu bod yn henuriaid y bobl ac yn swyddogion drostynt, a chymer hwy i babell y cyfarfod, a gwna iddynt sefyll yno gyda thi. 17Fe ddof finnau i lawr a llefaru wrthyt yno, a chymeraf beth o'r ysbryd sydd arnat ti a'i roi arnynt hwy; byddant hwy gyda thi i gario baich y bobl, rhag iti ei gario dy hunan. 18Dywed wrth y bobl, ‘Ymgysegrwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig; oherwydd yr ydych wedi wylo yng nghlyw'r ARGLWYDD, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? Yr oeddem yn dda ein byd yn yr Aifft.” Felly fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chewch fwyta. 19Byddwch yn ei fwyta nid am un diwrnod, na dau, na phump, na deg, nac ugain, 20ond am fis cyfan, nes y bydd yn dod allan o'ch ffroenau, a chwithau'n ei gasáu; oherwydd yr ydych wedi gwrthod yr ARGLWYDD, sydd yn eich plith, trwy wylo yn ei glyw, a dweud, “Pam y daethom allan o'r Aifft?” ’ ” 21Ond dywedodd Moses, “Dyma fi yng nghanol chwe chan mil o wŷr traed, ac eto dywedi, ‘Rhof iddynt gig i'w fwyta am fis cyfan!’ 22A leddir defaid a gwartheg er mwyn eu digoni? Neu a fydd holl bysgod y môr, wedi eu casglu ynghyd, yn ddigon ar eu cyfer?” 23Atebodd yr ARGLWYDD ef, “A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr? Cei weld yn y man a wireddir f'addewid iti ai peidio.”
24Aeth Moses ymaith a mynegi i'r bobl eiriau'r ARGLWYDD; yna casglodd ddeg a thrigain o henuriaid y bobl a'u gosod o amgylch y babell. 25Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn cwmwl, a llefaru wrtho, a chymerodd yr ARGLWYDD beth o'r ysbryd oedd arno ef a'i roi ar yr henuriaid, y deg a thrigain ohonynt; pan orffwysai'r ysbryd arnynt, byddent yn proffwydo, ond ni wnaent ragor na hynny.
26Arhosodd dau o'r dynion yn y gwersyll; eu henwau oedd Eldad a Medad, a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwythau. Yr oeddent hwy ymhlith y rhai a gofrestrwyd, ond am nad oeddent wedi mynd allan i'r babell, proffwydasant yn y gwersyll. 27Pan redodd llanc ifanc a mynegi i Moses fod Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll, 28dywedodd Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses o'i ieuenctid, “Moses, f'arglwydd, rhwystra hwy.” 29Ond dywedodd Moses wrtho, “Ai o'm hachos i yr wyt yn eiddigeddus? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, ac y byddai ef yn rhoi ei ysbryd arnynt!” 30Yna dychwelodd Moses a henuriaid Israel i'r gwersyll.
Y Soflieir
31Anfonodd yr ARGLWYDD wynt a barodd i soflieir ddod o'r môr a disgyn o amgylch y gwersyll; yr oeddent tua dau gufydd uwchlaw wyneb y tir, ac yn ymestyn dros bellter o daith diwrnod o bob tu i'r gwersyll. 32Cododd y bobl, a chasglu'r soflieir trwy gydol y dydd hwnnw, trwy'r nos, a thrwy'r dydd drannoeth nes bod yr un a gasglodd leiaf wedi casglu deg homer; yna rhannwyd hwy ymhlith ei gilydd o amgylch y gwersyll. 33Pan oedd y cig rhwng eu dannedd yn barod i'w gnoi, enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl, a thrawodd hwy â phla mawr iawn. 34Felly galwyd y lle hwnnw yn Cibroth-hattaafa11:34 H.y., Beddau'r chwant., oherwydd yno y claddwyd y bobl oedd â chwant arnynt. 35Yna aethant o Cibroth-hattaafa i Haseroth, ac aros yno.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004