No themes applied yet
Cosbi Miriam
1Yr oedd gan Miriam ac Aaron gŵyn yn erbyn Moses oherwydd y wraig o Ethiopia yr oedd wedi ei phriodi, 2a gofynasant, “Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr ARGLWYDD? Oni lefarodd hefyd trwom ni?” A chlywodd yr ARGLWYDD hwy. 3Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear. 4Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, “Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod,” a daeth y tri ohonynt allan. 5Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen. 6Yna dywedodd,
“Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau:
Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith,
datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth,
a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.
7Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses;
ef yn unig o'm holl dŷ sy'n ffyddlon.
8Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,
yn eglur, ac nid mewn posau;
caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD.
Pam, felly, nad oedd arnoch ofn
cwyno yn erbyn fy ngwas Moses?”
9Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith. 10Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira. 11Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud. 12Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa.” 13Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, yr wyf yn erfyn arnat ei hiacháu.” 14Atebodd yr ARGLWYDD ef, “Pe bai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi wedi cywilyddio am saith diwrnod? Caeer hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac yna caiff ddod i mewn eto.” 15Felly caewyd Miriam allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac ni chychwynnodd y bobl ar eu taith nes iddi ddychwelyd. 16Yna aethant ymaith o Haseroth, a gwersyllu yn anialwch Paran.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004